Mae Cwlwm yn gweithio'n strategol gyda DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol) i wreiddio arferion gwrth-hiliol mewn Gofal Plant, Blynyddoedd Cynnar a Gwaith Chwarae.
Mae Cwlwm, mwen partneriaeth a DARPRL wedi darparu’r cyrsiau hunan-astudio isod i gyflwyno cysyniadau arfer gwrth-hiliol. Mae dwy gyfres o hyfforddiant, un wedi'i hanelu at Uwch Arweinwyr ac un wedi'i anelu at Ymarferwyr.
Gellir dod o hyd i'r modiwlau rhagarweiniol hyn, a mwy o adnoddau hefyd ar wefan DARPL. https://darpl.cymru/
Cliciwch ar y sesiynau isod a chadw'r ffeiliau i'ch dyfais:
Cyfres o Sesiynau DARPL i Ymarferwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar
Mae cyfres dysgu proffesiynol DARPL i ymarferwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yn cynnwys tair sesiwn sy’n dadbacio gwrth-hiliaeth ac yn archwilio camau y gellir eu gweithredu mewn lleoliadau gofal plant, gwaith chwarae, gwarchod plant ac addysg blynyddoedd cynnar.
Mae’r gyfres hon yn archwilio effaith hiliaeth ar les a bywydau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig eraill a materion a allai effeithio’n andwyol ar blant ifanc a’u teuluoedd.
Mae’n bwysig bod gwrth-hiliaeth yn cael ei yrru’n weithredol yn ein harferion proffesiynol bob dydd, er mwyn sicrhau bod pob lleoliad gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn effeithio ar newid a gwelliant cadarnhaol. Mae’r sesiynau byw hyn yn cynnig lle i rannu meddyliau, cynnig arweiniad a chael thrafodaeth gyda’r cyflwynwyr a’r cyfoedion sy’n mynychu.
Cadwch y dyddiad yn rhydd.. manylion archebu ticedi i ddilyn
Mehefin 17, 24, Gorffennaf 1 - Archebwch ar-lein
Gorffennaf 2, 9, 16 - Archebwch ar-lein