Amdano
Sefydliad ymbarél arbenigol yw Blynyddoedd Cynnar Cymru sydd wedi ymrwymo i ddatblygiad plant o 0 i 5 oed drwy gefnogi darparu i blant yng Nghymru gyfleoedd i ddysgu a chwarae’n greadigol gyda strwythur a sicrwydd ansawdd.
Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru eisiau cefnogi’r holl blant cyn-ysgol, eu teuluoedd a darparwyr Blynyddoedd Cynnar ledled Cymru i gael y dechrau gorau mewn bywyd drwy:
- Gefnogi darparwyr gofal blynyddoedd cynnar
- Cefnogi teuluoedd i gymryd rhan mewn chwarae
- Hyrwyddo gwaith Blynyddoedd Cynnar Cymru’n eang
- Cyfrannu ar weithredu polisi ar lefelau Cenedlaethol a Lleol
- Datblygu Partneriaethau
- Cynnal a datblygu llywodraethiant a rheolaeth sefydliadau
- Recriwtio a datblygu staff a gwirfoddolwyr
- Chwilio am, a rheoli, cyllid i gynnal ac ymestyn ein gwasanaethau
Sicrwydd ansawdd
- Quality for All (QfA)
Dylai pob lleoliad Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a Chwarae adolygu ansawdd eu darpariaeth yn barhaus. Mae myfyrio ar ddarpariaeth ac ymarfer yn sbardun ar gyfer gwelliant parhaus. Bydd cymryd rhan ar un o gynlluniau sicrhau ansawdd partner Cwlwm yn eich helpu i hunanwerthuso'ch gwasanaeth a chynllunio ar gyfer gwella.
Bydd marc ansawdd yn dangos i rieni a chyllidwyr eich bod yn anelu y tu hwnt i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru CIW a'ch bod yn anelu at ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel lle gall rhieni a theuluoedd deimlo'n hyderus yn y cyfleoedd dysgu a chwarae a gynigir
Am fwy o wybodaeth am raglen Achredu ansawdd yr uchod ewch at: https://www.earlyyears.wales/cy/ansawdd-i-bawb-qfa
Disgrifiad cyswllt, consectetur adipiscing elit. Mauris quis accumsan mi. Fusce leo libero, feiciat consectetur feiciatic in, rutrum id erat.
Swyddi Gwag
Mae ein swyddi gwag darparwyr yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, cliciwch ar y ddolen isod i weld y swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd.