Mae Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) o ansawdd uchel ar gyfer y gweithlu Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Gwaith Chwarae yn hanfodol wrth helpu i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru ddyfodol disglair.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynllun gweithlu 10 mlynedd sy'n ymdrin â materion fel isafswm lefelau cymwysterau, arweinyddiaeth graddedigion, DPP a llwybrau gyrfa, a bydd cynllun gweithredu yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.
Mae partneriaid Cwlwm yn darparu cyfleoedd a gwybodaeth i chi a'ch cydweithwyr gael mynediad at gymwysterau, gweithdai a chyrsiau ynghyd â digwyddiadau rhwydweithio a fydd yn eich helpu i adeiladu ar eich gwybodaeth a'i diweddaru.
Mae dwy ddogfen allweddol y gallwch eu defnyddio wrth recriwtio neu ddewis cymwysterau i'ch staff.
1. Mae Rhestr o Gymwysterau Gofynnol Gofal Cymdeithasol Cymru i weithio yn y sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru yn darparu arweiniad ar gyfer cyflogwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant, ymarferwyr, darparwyr dysgu, a sefydliadau eraill ynghylch y cymwysterau galwedigaethol gofynnol ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
2. Os ydych chi'n cyflogi neu'n gweithio fel Gweithiwr Chwarae, dylech ddefnyddio Rhestr o Gymwysterau Gofynnol i weithio yn y Sector Gwaith Chwarae yng Nghymru (Gwaith Chwarae) gan SkillsActive
3 Llifsiart Cymwysterau Gwaith Chwarae
Cymerwch gip ar tudalennau ein partneri lle gallwch ddarganfod mwy am hyfforddiant a chyfleoedd DPP sy'n cael eu cynnig gan bob sefydliad.
Cyfres o Sesiynau DARPL i Arweinwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yn dod yn 2025!
Mae'r gyfres hon o sesiynau wedi'u hanelu at arweinwyr (rheolwyr, arweinwyr lleoliadau, gwarchodwyr plant, pwyllgorau rheoli gwirfoddol, perchnogion meithrinfa ac ati) mewn lleoliadau Gofal Plant, Gwaith Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar. Mae creu diwylliant gwrth-hiliol yn eich lleoliad yn dechrau gydag arweinyddiaeth, tra bod cyfres o sesiynau i ymarferwyr yn eistedd ochr yn ochr â chyfres arweinwyr i gefnogi dysgu proffesiynol i'r holl staff ar draws lleoliadau.
Trwy fynychu POB sesiwn (2 neu 3 yn dibynnu ar hyd y sesiwn), bydd gan arweinwyr gyfle i fyfyrio a thrafod:
- sut i adnabod hiliaeth systemig a strwythurol o fewn ein cymdeithas
- sut i greu diwylliant gwrth-hiliol o fewn eich lleoliad
- sut i herio hiliaeth a gweithredu arfer gorau o ran polisi a gweithdrefn
- sut i ddyfnhau eich dealltwriaeth a'ch gwybodaeth am arfer gwrth-hiliol
Mae nifer y mynychwyr ym mhob sesiwn wedi'i gyfyngu i 20. I archebu lle, cliciwch ar un o’r dolenni isod:
Sesiynau DARPL i Arweinwyr
- Sesiynau DARPL i Arweinwyr yn cael eu harwain gan NDNA Cymru a PACEY Cymru (1 a 8 o Chwefror 9.30yb – 12.30yp) – sesiynau Saesneg
- Sesiynau DARPL i Arweinwyr yn cael eu harwain gan Mudiad Meithrin (4, 11 a 18 o Chwefror 6.30yh – 8.30yh) - sesiynau Cymraeg
Cyfres o Sesiynau DARPL i Ymarferwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yn dod yn 2025!
Mae'r gyfres hon o sesiynau wedi'u hanelu at Ymarferwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar. Mae cyfres o sesiynau ar gyfer Arweinwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yn eistedd ochr yn ochr â chyfres ymarferwyr i gefnogi dysgu proffesiynol i'r holl staff ar draws lleoliadau.
Trwy fynychu POB sesiwn (2 neu 3 yn dibynnu ar hyd y sesiwn), cewch gyfle i fyfyrio a thrafod:
- effaith hiliaeth ar fywydau pobl o gefndiroedd Mwyafrif Byd-eang a chymunedau Sipsiwn, Roma, Romani a Theithwyr a materion a allai effeithio'n andwyol ar blant ifanc a'u teuluoedd
- gwrth-hiliaeth
- camau gweithredu y gellir eu mabwysiadu mewn lleoliadau gofal plant, gwaith chwarae, gwarchod plant, ac addysg blynyddoedd cynnar.
Mae nifer y mynychwyr ym mhob sesiwn wedi'i gyfyngu i 20. I archebu lle, cliciwch ar un o’r dolenni isod:
Sesiynau DARPL i Ymarferwyr yn cael eu harwain gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs a Blynyddoedd Cynnar Cymru (15, 22 a 29 o Ionawr 6.30yh – 8.30yh) – sesiynau Saesneg. Full- Sesiynau DARPL i Ymarferwyr yn cael eu harwain gan Mudiad Meithrin (11,18 a 25 o Fawrth 6.30yh – 8.30yh) – sesiynau Cymraeg