Amdano
Nod Mudiad Meithrin yw rhoi i bob plentyn ifanc yng Nghymru y cyfle i elwa o gynnar gwasanaethau a‘r profiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Sicrwydd ansawdd
Dylai pob lleoliad Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a Chwarae adolygu ansawdd eu darpariaeth yn barhaus. Mae myfyrio ar ddarpariaeth ac ymarfer yn sbardun ar gyfer gwelliant parhaus. Bydd cymryd rhan ar un o gynlluniau sicrhau ansawdd partner Cwlwm yn eich helpu i hunanwerthuso'ch gwasanaeth a chynllunio ar gyfer gwella.Bydd marc ansawdd yn dangos i rieni a chyllidwyr eich bod yn anelu y tu hwnt i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru CIW a'ch bod yn anelu at ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel lle gall rhieni a theuluoedd deimlo'n hyderus yn y cyfleoedd dysgu a chwarae a gynigir
- Safonau Serennog
Mae’n bwysig bod cylchoedd Mudiad Meithrin yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i blant bach a’u teuluoedd er mwyn sicrhau bod y plant hynny yn cael cyfleoedd i ddatblygu i’w llawn botensial.
Pwrpas Safonau Serennog yw gosod nodau a chamau cyraeddadwy y gall pob Cylch meithrin weithio tuag atynt. Mae’n cynnig strwythur fel y gall pwyllgorau a staff werthuso’u gwasanaeth yn wrthrychol. Mae’r Mudiad yn annog pob cylch i gofrestru ar gyfer y cynllun pwysig hwn. Mae’r cynllun yn cydymffurfio â gofynion ansawdd Llywodraeth Cymru.
Am fwy o wybodaeth am raglen Achredu Ansawdd yr uchod ewch at: www.meithrin.co.uk
Disgrifiad cyswllt, consectetur adipiscing elit. Mauris quis accumsan mi. Fusce leo libero, feiciat consectetur feiciatic in, rutrum id erat.
Swyddi Gwag
Mae ein swyddi gwag darparwyr yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, cliciwch ar y ddolen isod i weld y swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd.