Amdano
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yw cyfundrefn genedlaethol Clybiau Gofal Plant Allysgol yng Nghymru. Mae’r rhain yn rhedeg y naill ochr i’r diwrnod ysgol ac yn ystod y gwyliau, gan alluogi rhieni/gofalwyr i ddychwelyd i’w gwaith neu hyfforddiant, a chyfoethogi plant drwy ddarpariaethau’n sy’n canolbwyntio ar chwarae ac sydd wedi’u staffio gan Weithwyr Chwarae cymwysedig.
Ein cenhadaeth yw bod yn llais Clybiau Gofal Plant Allysgol yng Nghymru, gan gefnogi hawl plant i chwarae a gofal plant o ansawdd sydd yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn diwallu anghenion plant, eu teuluoedd a’u cymunedau.
Rydym am weld Cymru lle mae plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu, drwy hyrwyddo a diogelu’r sector, cydweithio â phartneriaid a chyflenwi cyfathrebiadau gwybodus.
A thros 20 mlynedd o brofiad, rydym yn darparu hyfforddiant ar gyfer y sector Gofal Plant Allysgol er mwyn datblygu gweithlu proffesiynol sy’n cofleidio ac yn cefnogi chwarae wedi ei gyfarwyddo gan y plant eu hunain.
Mae ein gwasanaethau Cefnogi Busnesau Gofal Plant yn cynorthwyo busnesau gofal plant presennol, ac yn helpu unigolion, ysgolion, aelodau pwyllgorau ac eraill i sefydlu busnesau gofal plant o’r newydd.
Sicrwydd ansawdd
Dylai pob lleoliad Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a Chwarae adolygu ansawdd eu darpariaeth yn barhaus. Mae myfyrio ar ddarpariaeth ac ymarfer yn sbardun ar gyfer gwelliant parhaus. Bydd cymryd rhan ar un o gynlluniau sicrhau ansawdd partner Cwlwm yn eich helpu i hunanwerthuso'ch gwasanaeth a chynllunio ar gyfer gwella.Rydym yn darparu cymwysterau Gwaith Chwarae (ac wedi ein graddio’n ‘rhagorol’ gan y corff dyfarnu, NCFE CACHE), Datblygiad Proffesiynol Parhaus a dewis eang o weithdai gweithgaredd yn seiliedig ar chwarae, tra’r ydym hefyd yn awyddus i ddatblygu syniadau newydd am brosiectau a chael hyd i ariannu perthnasol i gyflenwi gweithgareddau newydd a chyffrous i’n haelodau ar hyd a lled Cymru.
Ddim eto’n aelod, neu ddim eto’n siŵr a wnaethoch adnewyddu’ch aelodaeth? Dim problem! I ymuno, ewch i’n gwefan heddiw a gwneud cais ar-lein neu lawrlwythwch ffurflen gais. Yn profi anawsterau? Cysylltwch â’n gweinyddydd aelodaeth cyfeillgar, Becci, ar: [email protected] neu ffoniwch 02920 741000.
Gall ein Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant sgilgar ddarparu mentora sgiliau busnes, adnoddau a gweminarau sy’n sector-benodol, ac wedi’u teilwrio’n arbennig ar eich cyfer ar
Disgrifiad cyswllt, consectetur adipiscing elit. Mauris quis accumsan mi. Fusce leo libero, feiciat consectetur feiciatic in, rutrum id erat.
Swyddi Gwag
Mae ein swyddi gwag darparwyr yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, cliciwch ar y ddolen isod i weld y swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd.