Newyddion: Ymgynghoriad ar y Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymwyso) (Cymru) Drafft 2022.
![Consultation on the draft Child Minding and Day Care (Disqualification) (Wales) Regulations 2022 Consultation on the draft Child Minding and Day Care (Disqualification) (Wales) Regulations 2022](/sites/www.cwlwm.org.uk/files/styles/image_1088x364/public/2022-04/Consultation%20Events%20Cwlwm%20%287%29_0.png)
Mae Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi lansiad ymgynghoriad ar y Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymwyso) (Cymru) Drafft 2022.
Ymunwch â Llywodraeth Cymru a phartneriaid CWLWM i wybod mwy am y newidiadau arfaethedig ac i roi i ni eich safbwyntiau ar y rheoliadau drafft.
Gwarchodwyr Plant (10/05/2022, 6:30 – 8:30yh): Bwciwch yma
Gwasanaethau Gofal Dydd, yn cynnwys gofal plant cyfrwng-Cymraeg a thu allan i oriau ysgol (11/05/2022, 6:30 – 8yh): Bwciwch yma
Bwriedir i’r rheoliadau hyn ddisodli’r Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 presennol; a byddant yn cynnwys tramgwyddau a diweddariadau ychwanegol, a newidiadau mewn polisi er mwyn gwneud rhai elfennau o’r rheoliadau’n decach ac yn fwy cymesur.