Newyddion: Llythyr gan Cwlwm parthed y 'Cynnig Gofal Plant'

Cwlwm Rainbow

On 22nd June 2020, Cwlwm partners wrote to the Deputy Minister regarding the importance of the 30 Hours Childcare Offer


Annwyl Ddirprwy Weinidog,

Gyda’r cyfyngiadau’n llacio a’r economi’n araf ail gynhesu ar ôl y cyfnod clo, daw hanfodrwydd darparu gwasanaeth gofal plant i’r amlwg. Mae polisi arobryn, arloesol Llywodraeth Cymru o ddarparu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar cofrestredig o safon wedi bod yn allweddol i filoedd o blant a’u teuluoedd cyn y pandemig. Mae wedi golygu y gall lleoliadau aros yn gynaliadwy gan gynnig ystod ehangach o wasanaethau i’w cymunedau gan wireddu polisi Llywodraeth Cymru o ddarparu gofal ac addysg gynnar i blant ifanc a galluogi teuluoedd i boeni llai am gostau gofal plant.

Gyda heriau sylweddol yn wynebu economi Cymru cyn ac ar ôl y pandemig, erys sawl cyfle i ail-adeiladu’n cenedl. Mae buddsoddi ymhellach yn y sector gofal – fel yr awgryma elusen ‘Chwarae Teg’ hefyd – yn un elfen o sicrhau economi deg ac nid economi sy’n rhoi pwyslais ar brosiectau cyfalaf enfawr yn unig.

Byddai ail-godi y Cynnig Gofal Plant 30 awr (ar yr un telerau a chyn y cyfnod clo) ym mis Medi yn un cyfrwng ymarferol i wneud hynny.

Byddai’n gyfraniad uniongyrchol i’r economi sylfaen, yn ddatganiad eofn am bwysigrwydd darpariaeth gofal plant o ansawdd i deuluoedd (i blant a menywod yn enwedig), byddai’n cyd-fynd gyda’r bwriad fod pob plentyn yn dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi ac yn gyfrwng i osgoi miloedd o ddiswyddiadau yn y sector gofal plant. Teg dweud y bu’r misoedd diwethaf yn arbennig o heriol i’r sector gofal plant ac na fydd nifer o leoliadau’n goroesi heb fod y gymorth arferai fod ar gael yn cael ei ail-ddarparu.

Gwyddom y byddwch yn dod dan bwysau o gyfeiriadau niferus dros y dyddiau a’r wythnosau i ddod. Taerwn nad oes prin unrhyw sector pwysicach er mwyn cynnal gweddill economi Cymru na’r sector gofal plant cofrestredig ac mae’r ddarpariaeth Cynnig Gofal Plant 30 awr yn gwbl allweddol i barhad a chynaliadwyedd y sector.

Yr Eiddoch yn gywir,

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin

David Goodger, Prif Weithredwr Blynyddoedd Cynnar Cymru

Jane O’Toole, Prif Weithredwr Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Claire Protheroe, Prif Swyddog Pacey Cymru

Sarah Coates, Prif Swyddog NDNA Cymru

Cwlwm logos