Blog: Cyfartaledd a Chynhwysiant

Equality and Inclusion

Mae’r ffaith fod yn dal reidrwydd arnom i drafod unrhyw fath o gynhwysiant yn anodd ei ddirnad yn ein hoes fodern yn 2020. 

Ond, yn aml pan fyddwn yn ystyried Cyfartaledd a Chynhwysiant rydym yn meddwl am sut i wella bywydau pobl ag anabledd neu anghenion ychwanegol.  Y mae hyn nid oherwydd nad ydym yn anelu at ateb anghenion pobl o grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), ond oherwydd ymroddiad y rhai sydd ynglŷn â phob ffurf ar Ofal Plant i sicrhau bod pob plentyn yn cael profiadau cyfoethog ac amrywiol sy’n berthnasol nid yn unig i’w diwylliant eu hunain, ond mewn cyd-destun byd-eang.

O ystyried digwyddiadau diweddar ledled y byd, y mae’n glir fod gennym fel cymdeithas waith i’w wneud.  Fel Gofalwyr Plant a Gweithwyr Chwarae rydym yn dylanwadu’n fawr ar fywydau plant a phobl ifanc, gan eu bod yn ein gweld fel modelau rôl.  Dylem oll ymdrechu i feithrin cysylltiadau ystyrlon gyda’r plant a’u teuluoedd  i wneud yn siŵr ein bod yn ymwybodol o’r hyn yr hoffen nhw ei weld yn y lleoliad; i wneud yn sicr eu bod yn cael eu cynrychioli a’u parchu.

“Rydym yn gynnyrch ein profiadau ein hunain, ac fel oedolion rydym yn aml heb sylweddoli bod gennym ragfarnau – y credoau a’r agweddau yr ydym yn eu coleddu ac wedi eu cael gan ein teuluoedd, ein haddysg a’r cymunedau y cawsom ein magu ynddynt.  Heb sylweddoli, gallwn barhau’r credoau a’r agweddau hyn yn anfwriadol yn yr amgylcheddau dysgu yr ydym yn eu creu ar gyfer plant.”
Anne O’Connor, Ymgynghorydd y Blynyddoedd Cynnar, ‘Equality & Diversity Part 1’, Nursery World, 23 Medi 2009

Er mai dim ond ychydig flynyddoedd oed yw’r dyfyniad yma, ydych chi’n teimlo ei fod wedi dyddio?

Wrth ystyried a ydych yn bodloni anghenion BAME yn llawn dylech ofyn i’ch hun, a ydych, yn y lleoliad/Man Chwarae yn:

·        Dathlu a chydnabod gwyliau crefyddol lle bynnag y bydd modd. Mae hyn bob tro’n gyfle ardderchog i bawb ddysgu am wahanol ddiwylliannau ac i blant ofyn cwestiynau am wahanol ffyrdd crefyddol o ddathlu.  Gall hyn gynnwys unrhyw beth o flasu bwyd, gwisgo i fyny, addurno’r lleoliad i brofi traddodiadau/gemau penodol..

·        Lle bo’n bosibl, gwnewch yn siŵr fod gwahanol adnoddau ar gael yn y lleoliad gydol y flwyddyn er mwyn i blant archwilio i ddiwylliannau ac amrywedd. Gall hyn fod yn emwaith, offerynnau cerdd o wahanol rannau o’r byd, cerddoriaeth ar grynoddisgiau sy’n cynrychioli gwahanol wledydd/diwylliannau/gwerthoedd.  Gellir cael hyd i’r rhain yn rhad mewn siopau ail law / elusen os oes gennych Weithwyr Chwarae darbodus sydd bob tro’n chwilio am fargen!

·        A yw’r lleoliad yn edrych yn amrywiol?  A yw golwg yr hysbysfyrddau a’r Lleoliad yn cynrychioli amrywedd y gymuned yr ydych yn gweithio ynddi? Gwnewch yn siŵr fod y deunydd hysbysebu’n amrywiol ac yn dathlu pob diwylliant.

·        A ydych chi a’ch cydweithwyr yn deall agenda BAME? Uwchsgiliwch a gwnewch yn siŵr fod y staff mor wybodus â phosibl am amrywedd; bydd hyn yn help gyda llif cyffredinol y Lleoliad, a gallant rannu eu profiadau gyda’r plant.

Ac os mai methu a wnaiff yr oll uchod, gallwch fod yn GAREDIG, ewch chi ddim ymhell o’ch lle wrth fod yn Ofalwr Plant neu’n Weithiwr Chwarae caredig!

 Phoebe Wilson, Swyddog Hyfforddi
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Tagiau