Ers cychwyn y pandemig COVID-19 a’r cyfnod cloi mae nifer o ddarparwyr gofal plant wedi cau eu drysau neu’n cynnig gwasanaeth cyfyngedig. Bu’n rhaid i nifer o ddarparwyr wneud penderfyniadau ar frys, ac o bosib ni chawsant gyfle i sicrhau diogelwch eu cyflenwad dŵr tra’u bod ar gau. Paratowyd y canllaw hwn gan CWLWM i gefnogi darparwyr gofal plant wrth iddynt baratoi i ailagor a dod a’r cyfnod cloi i ben.