Newyddion: Undeb Credyd; Cynilo, Benthyca ...Cynllunio are gyfer y dyfodol
Oeddech chi'n gwybod bod undebau credyd yn gwmnïau cydweithredol ariannol sy'n eiddo i'r aelodau sy'n eu defnyddio ac yn eu rheoli? Maent yn cynnig ffordd gyfleus i gynilo a'r cyfle i gael gafael ar fenthyciadau cost isel ac ystod o fuddion eraill.
Trwy eich undeb credyd lleol gallwch ymuno â Chynllun Didynnu Cyflogres, ni waeth pa mor fawr neu fach yw'r swm, cyn bo hir bydd swm defnyddiol yn cael ei ystyried p'un ai am wyliau, Nadolig neu flaendal am forgais. I ddarganfod mwy cliciwch un o'r mân-luniau isod.
Ar hyn o bryd, mae 21 o undebau credyd yn cwmpasu Cymru gyfan sy'n darparu gwasanaethau i fwy na 68,400 o oedolion a chynilwyr ifanc.
Mae aelodau undeb credyd yn cynilo mewn cronfa gyffredin. Yna gellir defnyddio'r gronfa hon i gynnig benthyciadau i aelodau'r undeb credyd ar gyfraddau llog fforddiadwy. Oherwydd bod undebau credyd yn gwmnïau cydweithredol ariannol, mae cynilion aelodau ac unrhyw log a enillir ar fenthyciadau yn aros yn y gymuned leol er budd pobl leol.
I gael mwy o wybodaeth am fuddion defnyddio undeb credyd a ble i ddod o hyd i'ch cangen leol, cliciwch yma: https://www.findyourcreditunion.co.uk