Newyddion: £29m o arian yr UE ar gyfer chwalu rhwystrau i gael gwaith

Welsh Government

Mae’r rhaglenni Cymunedau am Waith (CfW) a Gofal Plant a Chyflogaeth i Rieni (PaCE) ill dwy yn derbyn nawdd Cronfa Gymdeithasol Ewrop ac yn cael eu darparu ar y cyd â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), awdurdodau lleol a’r trydydd sector. Byddan nhw nawr yn gallu para tan 30 Mehefin 2022.

Caiff £23.4m o arian ychwanegol yr UE ei neilltuo i’r rhaglen CfW a £5.6m yn ychwanegol i PaCE. Dyna ddod â chyfanswm cyfraniadau’r UE, Llywodraeth Cymru a’r DWP i’r ddwy raglen i £123 miliwn dros eu hoes.

Mae’r CfW yn cefnogi’r rheini sydd bellaf o’r farchnad lafur ac sy’n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, os oes gobaith realistig eu symud yn nes i’r gwaith ac i swydd. Yr un pryd, mae PaCE yn helpu rhieni i gael hyfforddiant neu waith os mai gofal plant yw’r rhwystr pennaf.

DATGANIAD I’R WASG:

https://llyw.cymru/29m-o-arian-yr-ue-ar-gyfer-chwalu-rhwystrau-i-gael-gwaith