Newyddion: Magu plant. Rhowch amser iddo.

Parenting. Give it time.

Mae ‘Magu plant. ‘Rhowch amser iddo’ yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n hyrwyddo dulliau cadarnhaol o fagu plant trwy nifer o wahanol sianeli cyfryngau. Gan ddefnyddio’r thema ‘amser’, mae’r negeseuon a roddir i rieni yn gadarnhaol ac yn gefnogol.

Anogir rhieni i roi amser i siarad a gwrando ar eu plant a rhoddir awgrymiadau iddynt ar sut i annog ymddygiad cadarnhaol, trwy fabwysiadu strategaethau magu plant cadarnhaol. Mae'r ymgyrch hefyd yn tynnu sylw at yr angen i rieni ofalu am eu lles eu hunain a'u helpu i reoli straen.

Mae'r ddolen ganlynol yn mynd â chi i wefan Magy Plant Rhowch Amser iddo lle byddwch chi'n dod o hyd i llwyth o wybodaeth, syniadau a dolenni i adnoddau a sefydliadau cymorth eraill.
Tagiau