Newyddion: Llythyr at y Llywodraeth Cymru oddi wrth Cwlwm
Annwyl Brif Weinidog,
Ysgrifennwn ar ran y sector gofal plant, blynyddoedd cynnar a chwarae yng Nghymru.
Fel y gwyddoch, rhyngom rydym yn cynrychioli buddiannau gweithwyr allweddol (sy’n aml ar dâl isel) sydd yn hanfodol i rediad esmwyth ein gwlad mewn amryw o ffyrdd.
Deallwn fod eich cydweithiwr, y Gweinidog Ken Skates AC, heddiw wedi datgan y bydd yna nifer o fesurau yn cael eu cyflwyno i ddiogelu gweithwyr (cyflogedig a hunangyflogedig fel ei gilydd) trwy “gefnogaeth busnes” ariannol uniongyrchol.
Tra’n bod yn deall y byddwch heddiw yn derbyn cynrychiolaeth oddi wrth yr holl sectorau, hoffwn bwysleisio bod y sector gofal plant, blynyddoedd cynnar a chwarae yn un cymhleth tu hwnt, gan fod yna feithrinfeydd preifat, gofalwyr plant sy’n fasnachwyr unigol neu’n hunangyflogedig, Cylchoedd Meithrin a grwpiau chwarae sy’n cael eu rhedeg gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol ond sydd â staff cyflogedig proffesiynol; a chlybiau gofal plant cofleidiol / allan o’r ysgol a rhedir gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol neu ddarparwyr preifat (sydd hefyd yn cyflogi staff).
Mae gan nifer (ond nid bob un) o’r rhain statws elusennol, a ni fyddent o reidrwydd yn gweld eu hunain yn perthyn i’r “sector breifat”, er bod eu gwaith a chyflogaeth yn ddibynnol iawn ar gefnogaeth barhaus gan y llywodraeth. Tra bydd nifer o ddarparwyr blynyddoedd cynnar bellach yn medru derbyn nawdd gan y llywodraeth (y Cynnig Gofal Plant, Dechrau’n Deg ac Addysg Gynnar), mae yna nifer o unigolion a lleoliadau sy’n darparu gofal plant cofrestredig sy’n dibynnu ar incwm o ffioedd rieni; yn enwedig y rhai sy’n darparu gofal ar draws ystod eang o oedrannau. O dan yr amgylchiadau presennol, mae’r incwm yna yn debygol o ddiflannu dros nos.
Gofynnwn i chi sicrhau y diogelir yr holl ofalwyr plant hunan-gyflogedig a gweithiwr cyflogedig o fewn ein sector, beth bynnag eu statws, a’u bod yn derbyn y math o gefnogaeth ariannol y mae Canghellor y Trysorlys wedi awgrymu fydd yn debygol o gael ei darparu.
Dymunwn yn dda i chi yn y cyfnod heriol hwn, wrth i chi fynd i’r afael â newidiadau mor gymhleth a digynsail.
Yr eiddoch yn gywir,
Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin
David Goodger, Prif Weithredwr, Blynyddoedd Cynnar Cymru
Jane O’Toole, Prif Weithredwr, Clybiau Plant Cymru Kids Clubs
Claire Protheroe, Prif Swyddog, Pacey Cymru
Sarah Coates, Prif Swyddog, NDNA Cymru