Newyddion: Gwybodaeth a chyngor Coronafeirws (COVID-19)
Mewn ymateb i’r argyfwng Coronafeirws (COVID-19) bydd partneriaeth Cwlwm yn dod â’r wybodaeth ddiweddaraf i’r sector blynyddoedd cynnar ynghylch y sefyllfa yng Nghymru a’r DU gan ddilyn y canllawiau i’r cyhoedd ynghylch risg Coronafeirws ar wefan y llywodraeth.
Cofiwch gadw llygad ar y post hwn yn gyson yn ogystal ag ar ein tudalennau Facebook a Twitter i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
7 Hydref 2021 - Newid ym mhrofion COVID-19 ar gyfer y plant dan 5 oed
Ddydd Llun 5 Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg nad argymhellir mwyach i blant o dan 5 oed sefyll profion COVID-19 heb symptomau. Os mae’r plentyn dan 5 oed yn cael symptomau, ni fydd profion yn cael eu hargymell fel mater o drefn oni bai bod meddyg yn cyfarwyddo i wneud hynny neu os yw rhieni’n credu bod prawf yn hollol angenrheidiol ac er budd gorau’r plentyn.
Mae’r cyhoeddiad hwn a newidiadau manylion profi i ddisgyblion ysgolion uwchradd i’w gweld yma.
Mae’r Cwestiynau Cyffredin wedi’u diweddaru ers hynny i esbonio’r newidiadau ar gyfer y plant dan 5 oed yn fwy manwl ac maent i’w gweld yma
Mae’r Cardiau Gweithredu hefyd wedi’u diweddaru. Bydd y Canllawiau Gofal Plant a Gwaith Chwarae yn cael eu diweddaru cyn bo hir.
15 Medi 2021 - Mae llywodraeth Cymru un cyhoeddi cerdyn gweithredu mesurau rhesymol ar gyfer lleoliadau
Lleolidau Gofal Plant: Cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl (Coronafeirws)
Canllawiau i helpu darparwyr gofal plant i ddiogelu plant, staff ac ymwelwyr.
Mae’r Cardiau Gweithredu hyn yn amlinellu’r mesurau rhesymol posibl y gall lleoliadau eu cymryd i leihau’r risg o COVID-19.
Dylid eu darllen ochr yn ochr â Chanllawiau COVID-19 Gofal Plant a Gwaith Chwarae.
Mae Cardiau Gweithredu Pellach ar gael, gan gynnwys ar Weithgareddau a Drefnir ar gyfer Plant ac Ardaloedd Chwarae Meddal ac Ardaloedd Chwarae Dan Do
I gael y cyngor diweddaraf un, ewch i:
Llywodraeth Cymru llyw.cymru/coronavirus
Gov.uk https://www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-information-for-the-public
Iechyd Cyhoeddus Cymru https://phw.nhs.wales/topics/latest-information-on-novel-coronavirus-covid-19/
Allergy UK https://www.allergyuk.org/about/latest-news/1216-advice-around-allergy-and-coronavirus-covid19
Yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch https://www.hse.gov.uk/news/coronavirus.htm
Busnes Cymru https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice
Yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch https://www.hse.gov.uk/news/coronavirus.htm