Newyddion: Datganiad i'r wasg: Cynnig Gofal Plant Cymru
Mae Cwlwm yn croesawu’r cyhoeddiad bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £6 miliwn ychwanegol y flwyddyn i’r Cynnig Gofal Plant Cymru er mwyn cynyddu cyfradd tâl gweithwyr gofal plant o £4.50 i £5 yr awr, o fis Ebrill ymlaen.
Bydd y cynnydd o 11% yn gymorth i’r sector gofal plant Cymraeg fod yn fwy cynaliadwy. Mae ymroddiad y Llywodraeth i adolygu’r gyfradd tâl o leiaf unwaith bob tair blynedd hefyd yn adlewyrchu’r hinsawdd heriol y mae ymarferwyr yn gweithio ynddi ar hyn o bryd. Mae’r nawdd ychwanegol yn gymorth iddynt barhau â chysoni’r cyfraddau cyllid i gyd-fynd â ffynonellau cyllid eraill, gan gynnwys Dechrau’n Deg, ac mae’n gam cadarnhaol sy’n ategu uchelgais Llywodraeth Cymru o greu ymagwedd gydygyslltiedig at Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar.
Bydd ehangu’r Cynnig i rieni mewn addysg a hyfforddiant a rhieni ar absenoldeb mabwysiadu yn galluogi rhieni i gael mynediad at ofal plant a ariannir a chymorth i dalu costau gofal plant, yn ogystal â chynnig hwb i leoliadau gofal plant sydd wedi profi trafferth wrth geisio llenwi swyddi gwag yn ystod y pandemig.
Meddai Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol;
‘Rydym wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd sy’n gweithio i dalu costau gofal plant. Mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal i blant 3 a 4 oed sydd a’u rhieni’n gweithio, a hynny am ddim ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn parhau i ehangu, yn nhermau’r nifer o deuluoedd sy’n gwneud defnydd o’r cynnig, a hefyd y nifer o leoliadau gofal plant sy’n cynnig llefydd.
Mae’n bwysig bod darparwyr y Cynnig Gofal Plant yn derbyn tâl cynaliadwy. Dengys ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021 fod y Cynnig Gofal Plant wedi cael effaith cadarnhaol ar broffidioldeb mwy na dau draean o ddarparwyr gofal plant; fodd bynnag, daeth galwadau arnom i adolygu’r gyfradd a dalwyd dan y Cynnig Gofal Plant, yn enwedig mewn rhai ardaloedd penodol o Gymru.
Bydd y cynnydd hwn yn hwb i gynaladwyedd y sector gofal plant yng Nghymru, ac yn sicrhau gall rhieni barhau i elwa o’r Cynnig Gofal Plant. Bydd hefyd yn galluogi parhad yn narpariaeth gofal ac addysg o safon, gan roi’r dechrau gorau posib i blant.’
Yn ogystal â’r cynnydd yn y gyfradd a dalwyd fesul awr am ofal plant, bydd yna hefyd gynnydd yn yr uchafswm gall lleoliadau godi ar rieni am fwyd, o £7.50 i £9 y diwrnod, sy’n adlewyrchu’r cynnydd yng nghostau bwyd, gwasanaethau a chostau ynni.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Yn ein dogfen Grym ein Gweithlu a gyhoeddwyd fis yma, un o’r argymhellion a gynigom oedd y dylid ail-ystyried y berthynas lefelau cyflog yn y sector, gan adlewyrchu'r gofynion hyfforddiant a rheoleiddio uwch, ac, fel rhan o hynny, cynyddu’r gyfradd Cynnig Gofal Plant i o leiaf £5.00 yr awr fesul plentyn.
Mae Mudiad Meithrin a Cwlwm felly’n hynod o falch ac yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw.”
Meddai Claire Protheroe, Rheolwr Cenedlaethol PACEY Cymru (Professional Association for Childcare and Early Years):
“Mae PACEY Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd cynnydd yn y gyfradd tâl i ymarferwyr sy’n darparu’r Cynnig Gofal Plant yng Nghymru. Mae hwn yn dilyn ymgynghoriad i gywain barn y sector, ac mae’n gadarnhaol fod y Llywodraeth wedi gwrando ar a gwerthfawrogi’r hyn oedd gan y sector i’w ddweud. Mae’r sector wedi wynebau ac mae’n parhau i wynebu heriau fel Covid-19 a’r cynnydd mewn costau byw, ac mae’r rhain wedi effeithio ar hyder yn ymwneud â hyfywdra ariannol. Yn benodol, mae gan PACEY Cymru bryderon ynghylch y gostyngiad yn y nifer o ofalwyr plant cofrestredig yng Nghymru, a gwyddom fod y sector mewn cyflwr bregus. Mae’r cyhoeddiad yn gam cadarnhaol at gefnogi cynaladwyedd ariannol holl leoliadau gofal plant Cymru, ac yn cydnabod y cynnydd mewn costau wrth ddarparu gwasanaethau gofal plant a chwarae o safon.’”
Meddai Jane O’Toole, Prif Swyddog Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs:
“Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd cynnydd yn y gyfradd tâl i ddarparwyr y Cynnig Gofal Plant. Darparwyr Gofal Plant All-Ysgol oedd ymhlith y rhai a brofodd y caledi mwyaf yn ystod y pandemig Covid-19; felly bydd y cynnydd ariannol yn caniatáu i leoliadau gofal plant barhau’n gynaliadwy, gan gynnwys y rhai sy’n cynnig gofal plant yng ngwyliau’r ysgol.”
Meddai Purnima Tanuku OBE, Prif Swyddog NDNA (National Day Nurseries Association):
“Bydd Meithrinfeydd a darparwyr gofal plant yn croesawu’r cynnydd yn y gyfradd cyllido gan Lywodraeth Cymru. Wrth i ymarferwyr wynebu cynnydd yng nghostau ynni, bwyd a staffio, mae’n bwysig bod cyllid Lywodraeth Cymru yn cadw cyflymder â’r cynnydd. Rydym yn croesawu’r ymrwymiad i adolygiadau rheolaidd o’r cyfraddau, ond o bosib bydd angen i hyn ddigwydd yn amlach os yw costau yn parhau i gynyddu. Bydd y codiad hwn yn sicrhau gwell cynaladwyedd i’r sector, sy’n golygu bydd gan deuluoedd fynediad at y gofal ac addysg gynnar sydd eu hangen arnynt. Mae’r buddsoddiad yn nyfodol plant yn cefnogi eu datblygiad a’u cyfleoedd bywyd hwy, ond mae hefyd yn allweddol wrth ganiatáu rhieni a gofalwyr i fynd i’r gwaith, astudio neu arallgyfeirio.”
Meddai Dave Goodger, Prif Swyddog Blynyddoedd Cynnar Cymru:
“Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn croesawu’r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r gyfradd tâl i ymarferwyr sy’n darparu’r Cynnig Gofal Plant i Gymru. Rydym yn falch o glywed bod yr ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru gyda’r sector gofal plant, a’r safbwyntiau a rhennir gan aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru a phartneriaid Cwlwm wedi cael eu hystyried a’u gweithredu, a bod y gyfradd tâl wedi cynyddu o ganlyniad. Mae’r heriau a wynebwyd gan y sector yn ystod y pandemig, a’r cynnydd yng nghostau bwyd a gwasanaethau yn ogystal wedi cael gryn effaith ar gyllidebau. Bydd y cynnydd yng nghyfradd y Cynnig Gofal Plant yn cefnogi’r sector i barhau i ddarparu gofal plant o ansawdd. Mae’n ymyrraeth gadarnhaol gan Lywodraeth Cymru pan mae’r sector yn bryderus ynghylch ei gynaladwyedd tymor byr a chanolig.
Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf i gefnogi’r cynlluniau yn ymwneud â’r sector gofal plant a gyhoeddwyd yn rhan o’r cytundeb cydweithrediad. Diolchwn i’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Llywodraeth Cymru am adolygu cyllid y Cynnig Gofal Plant, ac am wneud y cyhoeddiad cadarnhaol hwn.”
Nodyn i Olygyddion
Mae ‘Cwlwm’ yn gasgliad o bum mudiad gyda Mudiad Meithrin yn brif sefydliad. Mudiadau ‘Cwlwm’ yw Blynyddoedd Cynnar Cymru, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Mudiad Meithrin, National Day Nurseries Association (NDNA Cymru) a PACEY Cymru.
Mae ‘Cwlwm’ yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod teuluoedd ar draws Cymru gyda mynediad at ofal plant fforddiadwy o safon, gan ddarparu gofal plant a chyfleodd chwarae hyblyg sy’n cwrdd ag anghenion rhieni a theuluoedd.
Mae ‘Cwlwm’ yn uno pum sefydliad blaenllaw gofal plant Cymru i ddarparu gwasanaeth integredig dwyieithog fydd yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer plant a theuluoedd ledled Cymru.
Ymholiadau: Siwan Thomas, Prif Swyddog Cwlwm: [email protected] . 01970 639639