Newyddion: Datganiad i'r wasg: CWLWM yn croesawu’r ddeddf yn atal cosbi plant yn gorfforol

CWLWM

Hoffai ‘Cwlwm’ sef partneriaeth sefydliadau gofal plant a chwarae Cymru longyfarch Llywodraeth Cymru am basio Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).) a fydd yn sicrhau fod gan blant yng Nghymru yr un hawliau ag oedolion i gael eu amddiffyn rhag unrhyw ymosodiadau neu gosbau corfforol. Bu Mudiad Meithrin, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Pacey Cymru, Clybiau Plant Cymru ag NDNA Cymru, ynghyd â mudiadau a chyrff eraill dros Gymru, yn gefnogol i’r ymgyrch hon ers blynyddoedd.

Fel mudiadau sydd yn arddel hawliau plant ac yn gweithredu er lles plant, ymfalchïwn o weld Cymru yn cymryd y cam beiddgar hwn i sicrhau fod gan blant yr un hawl i beidio cael eu cam-drin yn gorfforol ac sydd gan bawb arall yn ein cymdeithas.

Mae sefydliadau ‘Cwlwm’ yn cynorthwyo’r Llywodraeth i sicrhau bod teuluoedd ar draws Cymru yn gallu cael mynediad at ofal fforddiadwy o safon i greu gofal plant hyblyg a chyfleon chwarae i gwrdd â gofynion rhieni a theuluoedd gan sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer plant a theuluoedd ledled Cymru.

Mae arwain a chefnogi plant i ddatblygu eu sgiliau, eu hymwybyddiaeth o’r byd, a’u dealltwriaeth o berthynas ag eraill yn rhan annatod o’n gwaith. Mae ymarferwyr a gwirfoddolwyr mewn lleoliadau gofal plant a chwarae ledled y wlad yn addysgu a modelu ymddygiad gadarnhaol trwy ymddwyn gyda gofal, empathi, amynedd a pharch. Dyma’r rhinweddau a’r ymddygiad sydd yn creu’r amgylchedd mwyaf cadarnhaol a chariadus i blant yn eu cartrefi ac yn ein gwasanaethau ni.

Yn ôl Eleri Griffiths, Rheolwr Polisi Mudiad Meithrin:

“Mae cefnogi rhieni a gofalwyr i fagu plant yn rhan bwysig o waith y sector gofal a chwarae plant ac rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cefnogol sydd yn annog ymlyniad cryf, profiadau melys ac amser i rieni, gofalwyr a phlant fwynhau cwmni ei gilydd. Bydd sefydliadau Cwlwm yn falch i barhau i gefnogi rhieni a gofalwyr gyda dulliau a syniadau cadarnhaol am sut i gefnogi a magu plant”.
 


NODIADAU GOLYGYDDOL

Y sefydliadau gofal plant a chwarae sy’n rhan o Cwlwm yw: Mudiad Meithrin, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, NDNA, Pacey Cymru

For further information contact:

Iola Jones,

Phone: 01970 639639 / 07841 452 607