Cyfres o Sesiynau DARPL i Arweinwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yn dod yn 2025!
Mae'r gyfres hon o sesiynau wedi'u hanelu at arweinwyr (rheolwyr, arweinwyr lleoliadau, gwarchodwyr plant, pwyllgorau rheoli gwirfoddol, perchnogion meithrinfa ac ati) mewn lleoliadau Gofal Plant, Gwaith Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar. Mae creu diwylliant gwrth-hiliol yn eich lleoliad yn dechrau gydag arweinyddiaeth, tra bod cyfres o sesiynau i ymarferwyr yn eistedd ochr yn ochr â chyfres arweinwyr i gefnogi dysgu proffesiynol i'r holl staff ar draws lleoliadau.
Trwy fynychu POB sesiwn (2 neu 3 yn dibynnu ar hyd y sesiwn), bydd gan arweinwyr gyfle i fyfyrio a thrafod:
- sut i adnabod hiliaeth systemig a strwythurol o fewn ein cymdeithas
- sut i greu diwylliant gwrth-hiliol o fewn eich lleoliad
- sut i herio hiliaeth a gweithredu arfer gorau o ran polisi a gweithdrefn
- sut i ddyfnhau eich dealltwriaeth a'ch gwybodaeth am arfer gwrth-hiliol
Mae nifer y mynychwyr ym mhob sesiwn wedi'i gyfyngu i 20. I archebu lle, cliciwch ar un o’r dolenni isod:
Sesiynau DARPL i Arweinwyr
Cyfres Arweinyddiaeth Estynedig DARPL
Mae’r gyfres yn addas i rai sydd wedi bod ar gwrs gwrth-hiliaeth gyda DARPL yn barod ac sydd am ddwysau eu dealltwriaeth a’u hymarfer.
Mae cyfanswm o 5 sesiwn (rhai wyneb yn wyneb yn Abertawe ac eraill ar-lein, mae angen i gyfranogwyr ymrwymo i fynychu’r gyfres gyfan.). Cliciwch ar y ddolen am y manylion yn llawn: https://meithrin.cymru/cyfres-arweinyddiaeth-estynedig-darpl/