Meithrinfa Little Stars, Blaenau Gwent

“Rwyf bellach yn teimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg, gan ei defnyddio yn ystod amser cylch i ganu caneuon gyda’r plant o ran dyddiau’r wythnos, y tywydd, emosiynau a chyfarwyddiadau. Mae’n hyfryd clywed y plant yn eu chwarae rhydd yn copïo’r iaith Gymraeg maen nhw’n ei dysgu.”