Blog: Y Cynnig Gofal Plant i Gymru
Beth a olyga’r Cynnig Gofal Plant i’ch Clwb Gofal Plant All-ysgol? Ydych chi’n meddwl nad yw’r cynnig yn effeithio arnoch chi?
Efallai nad Clwb ar Ôl Ysgol yw’ch lleoliad ond mae nifer o’r cynghorion isod yn berthnasol i’ch darpariaeth.
Gall pob lleoliad gofal plant sydd wedi ei gofrestru ag AGC gyflenwi’r Cynnig. Bydd rhieni cymwys yn gallu defnyddio elfen ofal plant y Cynnig mewn unrhyw leoliad sydd wedi ei gofrestru gydag AGC, y tu mewn neu’r tu allan i’w sir breswyl, cyhyd ag y bo’r lleoliad wedi cofrestru i dderbyn y cynnig.
Pa wahaniaeth a fyddai incwm ychwanegol o £3,510.00 yn ei wneud i’ch Clwb Ôl-ysgol? Neu pa wahaniaeth a fyddai incwm ychwanegol o £1,215 yn ei wneud i’ch Clwb Gwyliau?
Ydym ni wedi dal eich sylw?
- BYDD cynnig lle i blentyn cymwys yn golygu cynnydd yng nghynaliadwyedd eich clwb.
- Gall cynnig lle i blentyn cymwys ddenu rhieni/gofalwyr i fwcio lleoedd i frodyr/chwiorydd.
Peidiwch â diystyru’r Cynnig Gofal Plant a’i ystyried yn amherthnasol i’ch clwb chi. Cysylltwch â ni i weld sut y gall helpu i wneud eich lleoliad yn fwy cynaliadwy.
Cynnig Gofal Plant i Gymru
Gwyliwch rhag i’ch lleoliad fod ar ei golled!
Os oes gan eich lleoliad ddarpariaeth amlapiol a/neu wyliau, gallai elwa o’r Cynnig. Os na, ystyriwch ddiwygio’ch cofrestriad i’w chynnwys/cynnwys..
Felly beth a olyga hyn i chi fel darparydd?
- Darpariaeth wyliau – hyd at £1,215 y flwyddyn am bob plentyn 3 neu 4 blwydd oed gan deulu cymwys.
- Darpariaeth ôl-ysgol – hyd at £3,510 y flwyddyn am bob plentyn 3 neu 4 blwydd oed gan deulu cymwys.
- Gall y Cynnig Gofal Plant wella cynaliadwyedd eich lleoliad.
Beth a olyga hyn i’ch rhieni?
- Bydd y Cynnig Gofal Plant yn rhoi i rieni cymwys *30 awr o ofal plant ac addysg gynnar wedi eu cyfuno i blant 3 a 4 blwydd oed am 48 wythnos o’r flwyddyn.
*gweler y canllawiau ar gymhwysedd
Os nad ydych wedi cofrestru gydag AGC gall Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs eich cynorthwyo drwy’r broses gofrestru. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
Am wybodaeth bellach ar y cynnig Gofal Plant, ewch i:
http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2017/childcareofferwales/?lang=en
http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/cyp/170609-providers-faq-en.pdf