Blog: Symud o’r hen a chofleidio’r newydd
Wel am dymor! Dywedodd Socrates Cyfrinach newid yw canolbwyntio’ch holl egni nid ar ymladd yr hen ond ar adeiladu’r newydd.
Mae’r tri mis diwethaf wedi ein gorfodi i gofleidio newid heb fawr o ddewis nac amser i feddwl amdani. Mae’r pandemig wedi gyrru’n haelodau a ninnau i wneud penderfyniadau anodd a chyflym sydd wedi effeithio ar fywydau plant bach Cymru’n enfawr.
Ers cau ysgolion ac yn eu tro y Cylchoedd Meithrin a‘n swyddfeydd gan fabwysiadau ffordd newydd o weithio gartref yn barhaol, mae Mudiad Meithrin wedi gorfod ystyried pob agwedd o’m gwaith a’u haddasu mewn modd sydd yn parhau i gefnogi a gwarchod Cylchoedd Meithrin, y gweithlu a theuluoedd led led Cymru.
Rydym wedi gweld ein cydweithwyr ar lein mewn amgylchiadau gwahanol, gwallt i fyny, barf newydd, dim colur, cathod yn cerdded heibio, plant yn dod i ddweud ‘helo’ ar y sgrin, a’r defnydd o’r frawddeg ‘ ti ar mute’ o leiaf 5 gwaith y diwrnod! Ond tu ôl y cynnwrf a’r sefyllfaoedd ysgafn mae’n haelodau ni wedi ( ac yn parhau) i weithio o dan amodau heriol iawn.
Ers cyhoeddiad Llywodraeth Cymru nol ym mis Mawrth yn cynghori y dylid cadw plant bach adref, fe gaeodd rhan helaeth o’r Cylchoedd Meithrin oherwydd gostyngiad mewn plant neu nifer o staff yn hunan ynysu. Mae’r sefyllfa hon wedi parhau gyda drysau’r cylchoedd ar gau a sŵn plant yn canu wedi dyfod am y tro. Mae Dewin a Doti’n ynysu yn ei balalŵn.
Rydym wedi gweithio’n galed fel tîm i gadw mewn cyswllt gyda’n haelodau drwy’r Swyddogion Cefnogi a rhannu negeseuon pwysig ar lein a diweddariadau e-byst bron yn ddyddiol i gadw pwyllgorau a staff yn gyfredol i’r hyn sydd yn digwydd. Wrth gwrs yr her fwyaf gyda hyn yw’r cyflymder mae’r wybodaeth yn newid, yn llythrennol dros nos weithiau; ond cymerwyd y penderfyniad ei fod yn well rhannu’r wybodaeth sydd gennym na ‘radio silence’ pur. Risg wrth gwrs, ond mae’r llu o e-byst sydd wedi cyrraedd ein post gan Gylchoedd Meithrin a phwyllgorau rheoli’n canmol y gefnogaeth, arweiniad a’r cyngor sydd yn dod gennym yn dyst bod y risg wedi talu.
Beth sydd nesaf? Yr her nesaf a’r newid nesaf sydd o’m blaenau yw ail agor Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd. Mae’n wir i ddweud bod ceisio ail agor yn fwy anodd na chau.
Mae gwir ansicrwydd ariannol yn wynebu nifer o gylchoedd a llwyth o gwestiynau’n codi : Beth os nad ydym yn gallu llenwi’n llefydd? Beth os bydd disgwyl i ni gyfyngu’n rhifau? O ble daw’r incwm i dalu cyflogau staff?
Gan amlaf, tymor yr Haf yw tymor prysuraf y cylchoedd sy’n cynnig amryw o gyfleoedd i gynyddu’u hincwm a chodi arian i’w cynnal drwy dymor yr Hydref. Rydym yn mawr obeithio bydd Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pryderon yma gan gynnig cymorth ariannol trwy grantiau i’r sector Gofal Plant a Chwarae. Rhaid i ni gofio, yn wahanol i ysgolion, nid yw cyllidebau’r sector nas gynhelir wedi’u gwarchod ac mae darpariaethau’n llwyr ddibynnol ar ffioedd a grantiau. Mae Mudiad Meithrin gyda phartneriaid Cwlwm yn parhau i godi’r heriau yma o gwmpas bwrdd Llywodraeth Cymru.
Her arall sydd yn ein hwynebu yw gosod y canllawiau iechyd hylendid a diogelwch ar waith yn y Cylchoedd Meithrin. Sut bydd hwn yn edrych? Oes digon o staff gennym? A fydd rhieni’n dychwelyd? Pa offer fedrwn ni ddefnyddio? Oes angen newid ein polisïau a gweithdrefnau? Sut byddwn yn diogelu pawb ac ymbellhau plant ( hyd gallwn gyda phlant bach!) sut fedrwn fagu hyder staff i ddychwelyd i’r gwaith a magu ffydd rhieni i ddychwelyd? Rhestr ddiddiwedd o gwestiynau a mynydd o waith! Symud o’r hen a chofleidio’r newydd . Mae cydweithio a chyfathrebu’n bwysicach nac erioed er mwyn adfer cymunedau’r Cylchoedd Meithrin.
Beth am y plant?Rydym yn gwybod bod staff y cylchoedd yn cadw mewn cyswllt cyson a’r plant a’u teuluoedd, teulu ydynt ac mae’r plant wrth eu boddau yn gweld antis y cylch ar lein! Mae Mudiad Meithrin wedi addasu’n gwaith a’n gwasanaethau drwy symud ein harlwy yn ddigidol er mwyn sicrhau bod plant bach Cymru’n clywed y Gymraeg yn eu cartrefi – sesiynau Cymraeg i Blant, sesiynau Ti a Fi , Gŵyl Dewin a Doti ar lein a Chlwb Cylch.
Mae’r ymateb yn wych ac yn dyst ein bod yn llwyddo i sicrhau bod y Gymraeg dal ar glyw yn lolfa’r plant. Gallwn sgwennu traethawd hir am yr holl waith sydd ar y gweill a’r gefnogaeth fydd yn digwydd, ond y gwir yw, bydd Cylchoedd Meithrin, staff, pwyllgorau a’r gymuned yn barod i wynebu pob her fel mae’n dod.
Byddwn ni fel mudiad yn parhau i lobio a chydweithio gyda phartneriaid megis Llywodraeth Cymru, yr Awdurdodau Lleol, AGC, athrawon ymgynghorol ac Estyn i’w diogelu a hwyluso’r cyfnod yma cymaint ag sydd yn bosib. Mae hanes ers sefydlu Mudiad Meithrin a Chylchoedd Meithrin bron i 50 mlynedd yn ôl yn dangos bod y cylchoedd yn barod i ganolbwyntio’u holl egni nid ar ymladd yr hen ond ar adeiladu’r newydd. .
Heb ots – bydd aelodau Mudiad Meithrin yn gwarchod yr hen (ein traddodiadau a’r iaith) ond fe fyddwn yn creu siaradwyr Cymraeg bach mewn cyfnod ac amgylchiadau newydd iawn.
Leanne Marsh
Head of Service Development