Blog: Parhau i Gefnogi Plant Trwy'r Heriau
Wrth ddysgu pa mor anodd y mae hi wedi bod i’r lleoliadau â’u sawl gwahanol fath o gyfansoddiadau i gael gafael ar gymorth ariannol ac i gefnogi eu staff, rhieni a’r plant y maent yn gofalu drostynt drwy’r pandemig yma, mae rhan helaeth o’n ffocws fel cyfundrefn wedi bod ynghylch ateb yr heriau hynny a datblygu adnoddau i helpu lleoliadau i oresgyn y rhwystrau hynny. Y prif heriau i ddarparwyr gofal plant yw: pryderon economaidd, heriau i’r gweithlu, cefnogi plant a theuluoedd drwy’r argyfwng a diweddaru polisïau ar gyfer ailagor.
Mae’r gefnogaeth a ddarperir gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn cynnwys: cyfeirio at gyfleoedd ariannu posibl a chynorthwyo i gwblhau ceisiadau amdanynt, casglu ynghyd logiau gweithluoedd ar gyfer Llywodraeth Cymru, gan roi manylion statws clybiau o ran bod ar agor, a dod o hyd i weithwyr allweddol ar gyfer y cyfleusterau gofal plant sydd yn dal ar agor, gan ddatblygu adnoddau i gynorthwyo clybiau, plant a’u teuluoedd i’w helpu drwy’r argyfwng a diweddaru polisïau y gellir eu golygu i’w defnyddio ar eu hadeg ailagor.
Fel yr ystyriwyd yn flaenorol, mae hi’n fwy nag amlwg fod sawl agwedd ar y sector sydd wedi ‘syrthio drwy’r craciau ariannu’. Nid yw’r heriau gwirioneddol hynny wedi rhwystro ein darparwyr gofal plant rhag parhau i roi’r flaenoriaeth bennaf i hawliau ac anghenion y plant yn eu gofal. Mae rhai o’r gweithlu wedi eu hadleoli i weithio mewn hybiau gofal plant ar draws Cymru; i eraill doedd saib o’u swydd ddim yn opsiwn ac maent ar hyn o bryd yn goddef cyfnod o ansicrwydd heb dâl.
I’r rhai sy’n dal i weithio, mae ffyrdd dyfeisgar iawn wedi eu datblygu i barhau i gefnogi’r teuluoedd yn eu gofal. Mewn sawl achos mae’r cyswllt wedi para ar ffurf Facetime/Whatsapp/Zoom a nifer o lwyfannau eraill sydd wedi hwyluso’r symudiad dros dro i gefnogi plant o bell. Nid yw cynlluniau megis fideos i deuluoedd a phlant, na chyswllt aml rhwng darparwyr gofal a theuluoedd plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn ofyniad cyfreithiol; nid yw ond adwaith gan y darparwyr gofal plant sy’n gwybod bod ar y plant y maent yn gofalu amdanynt eu hangen o hyd, yn awr yn fwy nag erioed.
Yn rhan o bartneriaeth CWLWM, mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn parhau i gynorthwyo lleoliadau gofal plant i gefnogi’r plant a’r teuluoedd yn eu gofal. Ein hymrwymiad i’r sector yw y byddwn yn sicrhau bod y Clybiau Gofal Plant Allysgol nid yn unig yn goroesi, ond â’r modd i ffynnu, gan barhau i fod yn rhan annatod o economi sylfaenol Cymru. Yn ddi-os, mae hawliau plant wedi eu heffeithio’n andwyol gan argyfwng y Coronafeirws. Tynnwyd sylw at bryderon cymdeithasol-economaidd, dietau gwaeth a chynnydd mewn ymddygiad eisteddog fel canlyniadau posibl yr argyfwng hwn. Hyd yma mae hawl plentyn i addysg, iechyd da a llesiant, a’r celfyddydau, wedi bod yn ddibynnol ar wasanaethau’n parhau ar agor. Yn awr y mae’n gyfrifoldeb arnom oll i sicrhau nad anghofir statws Cymru yn brif wlad o ran hyrwyddo hawliau plant. Mae parhau i hyrwyddo hawliau plant yng Nghymru yn aros yn brif ymrwymiad gennym. Bydd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn casglu ynghyd yr ymatebion i’n harolwg ac yn ymateb i ymgynghoriadau megis o eiddo Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Llywodraeth Cymru, sy’n edrych ar sut y mae lledaeniad Covid-19 yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd plant a phobl ifanc yng Nghymru. Gwnawn hyn er mwyn sicrhau ein bod yn cynrychioli llais y sector Gofal Plant Allysgol pan fyddant yn edrych ar sut i lunio ffocws trawsnewidiad ein plant yn ôl i normaledd.
Janine Elworthy
Swyddog Datblygu Busnes Gofal-Plant / Swyddog Cefnogi Iaith Gymraeg