Blog: Meddwl Eilwaith am y Cynnig Gofal Plant yng Nghymru
Erbyn hyn mae’r Cynnig Gofal Plant yng Nghymru ymhell yn y cyfnod peilota a bydd mwy o ardaloedd yn ymuno â’r cynnig am ragor o oriau gofal plant dros y misoedd i ddod. Mae sefydliadau Partner Cwlwm wedi bod yn gweithio’n ymarferol mewn rhai ardaloedd peilot i helpu darparwyr i baratoi ar gyfer y plant y mae’u rheini eisiau manteisio ar y Cynnig Gofal Plant.
Wrth gwrs, i rai teuluoedd bydd hynny’n golygu, yn hytrach na thalu am y cyfan o’r gofal plant, y bydd rhiant yn talu llai neu’r isafswm costau gan eu bod eisoes yn talu am rywfaint o ofal. I eraill, gallai fod yn gyfle i newid eu horiau gwaith a naill ai ddychwelyd i’r gwaith neu gynyddu oriau. Mae partneriaid Cwlwm eisoes yn cefnogi darparwyr mewn lleoliadau cymunedol ac mewn ysgolion i addasu er mwyn gallu cynnig dilyniant gofal plant i rieni. Gallai hyn amrywio o’r rhai sydd eisiau cysylltu gydag ysgolion i ddarparu gofal ar ôl bod mewn lleoliadau wedi’u hariannu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen (mewn ysgolion neu grwpiau chwarae) neu i ymestyn oriau neu leoedd trwy gynnig sesiynau dilyniant o grwpiau chwarae, neu trwy alluogi Meithrinfeydd Dydd i sylweddoli manteision ymestyn eu darpariaeth.
Ni fydd yr un peth yn addas i bawb a bydd angen i ddarparwyr sydd eisiau cymryd rhan yn y Cynnig ystyried y ffordd orau o gyfarfod ag anghenion rhieni ar gyfer gofal eu plant. Nawr yw’r amser i ddechrau ar hyn a meddwl sut y gallai weithio i chi.
Enghreifftiau o sut y gallai hyn ddigwydd yw:
- Ymestyn oriau agor – ydych chi wedi’ch lleoli ger ysbyty, canolfannau galw neu gyflogwyr eraill sydd angen gweithwyr hyblyg, gweithwyr shifft, gweithwyr gofal gartref? Gallai meithrinfeydd dydd ddarparu oriau anarferol a fyddai o fantais i deuluoedd sydd angen y fath hyblygrwydd
- Darparu gofal gwyliau os mai dim ond yn ystod y tymor rydych yn darparu gofal ar hyn o bryd – er mwyn i’r plant gael dilyniant gofal gydol y flwyddyn.
- Ymestyn y nifer o leoedd rydych yn eu darparu sydd wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru
- Cysylltu gyda gofalwyr lleol i ategu’r ddarpariaeth sesiynol
- Agor darpariaeth gofal dydd lloeren yn, neu’n agos at yr ysgolion sy’n darparu meithrinfeydd yr awdurdod
- Mynd i bartneriaeth gyda darparwyr lleol eraill er mwyn sicrhau fod gofal plant ar gael gydol y flwyddyn
Ydych chi wedi penderfynu eich bod eisiau cymryd rhan a darparu’r Cynnig Gofal Plant? Ydych chi’n barod? A fydd gofyn i chi newid sut y mae’ch gwasanaeth yn gweithredu ar hyn o bryd? Ydych chi’n poeni sut y bydd yr ochr ariannol yn gweithio?
Gyda newidiadau neu gyllid, defnyddiwch eich sefydliad ymbarél aelodaeth i fod yn seinfwrdd ac i gael cefnogaeth i ganfod beth mae darparwyr eraill wedi’i wneud a sut mae gwahanol rannau o’r sector yn gallu cydweithio i wneud hyn yn llwyddiant i’r teuluoedd rydych yn gweithio gyda nhw ac i’ch busnes hefyd. Efallai y bydd Busnes Cymru hefyd yn gallu’ch cefnogi. Mae partneriaeth Cwlwm yn gweithio gyda rhai awdurdodau lleol gyda’n teclyn “Addas ar gyfer y Cynnig” sy’n eich helpu i asesu pa mor barod ydych chi i gofrestru a chynnig y gwasanaeth.
Cofiwch, nid pob rhiant fydd eisiau cymryd y cyfan o’r 20 awr ychwanegol yn ogystal â’r 10 awr bresennol o’r hawliad Cyfnod Sylfaenol, felly, dyma’r adeg i chi ofyn i’ch rhieni faint maen nhw’n debyg o ddefnyddio os yw’ch awdurdod lleol yn debyg o ymuno â’r peilot cyn bo hir.
I’r rhai a allai fod yn disgwyl blwyddyn neu ddwy oherwydd nad ydynt yn ardal un o’r awdurdodau lleol sy’n weithredwyr cynnar, pam na chysylltwch chi â’ch grwpiau Ti a Fi neu grwpiau gweithgaredd blynyddoedd cynnar eraill i weld a allwch drafod gyda’r rheini beth maen nhw’n rhagweld?
Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru #Talkchildcare yn ateb cwestiynau a ofynnir yn aml gan ddarparwyr yn
http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/children-and-young-people/childcare/talk-childcare/information-for-providers/?lang=en
Beth bynnag fydd eich penderfyniad neu’ch cynllun, mae sefydliadau partneriaeth Cwlwm yn gallu’ch helpu a’ch cyfeirio er mwyn datblygu’ch gwasanaeth.