Blog: Gweithio gyda Coronafeirws

Masks

Rwyf wedi bod yn gweithio fel gwarchodwr plant am dair blynedd yn hanner ym Mlaenau Gwent yng Nghymru. Pan darodd y Coronafeirws mi oeddwn yn ofnus iawn i barhau gofalu am blant bregus a gweithwyr hanfodol. Roeddwn yn poeni am les fy merch gan ei bod ond 16 mis oed ar y pryd.

Roedd materion ariannol hefyd yn bryder. Sut byddwn yn ymdopi heb y cyflog? Pa mor hir byddai’r cyfyngiadau yn parhau ac yn darparu gofal i rai teuluoedd yn unig? Byddai’r plant yn fy ngofal byth yn dychwelyd? Byddai’r busnes yn goroesi?

Serch hynny, dilynais arweiniad Llywodraeth Cymru, diweddarwyd rhieni, a gobeithiais am y gorau. Dewisodd y teuluoedd hanfodol i gadw eu plant adref ac felly bues i’n brysur yn diweddaru fy  mholisïau, gweithdrefnau ac asesiadau risg.

Ar ôl wyth wythnos o’r cyfyngiadau gwnaeth aelod o dîm Dechrau’n Deg o’r Awdurdod Lleol cysylltu â mi yn gofyn a byddwn yn gallu helpu teulu gyda gofal plant dros dro. Roeddwn yn hapus i wneud hynny a chychwynnais ar baratoi’r contract.

CWBLHAU CONTRACT GWARCHOD PLANT

Mewn amgylchiadau cyffredin byddwn yn gwahodd rhiant i mewn a byddwn yn trafod a chwblhau’r contract gyda’n gilydd. Gan fod hyn bellach yn amhosib, siaradais trwy bob adran gyda’r rhiant dros y ffôn. Fe wnes i gwblhau cymaint ag y gallwn o’r contract cyn anfon i’r rhiant er mwyn iddynt lenwi’r adrannau priodol ac i arwyddo a’i dyddio. Anogais iddynt alw os oedd ganddynt unrhyw gwestiynau pellach. Gweithiodd hyn yn dda. Fe wnes i hefyd e-bostio copïau o’n polisïau a gweithdrefnau yn hytrach na ddarparu nhw mewn ffyrdd papur.

CADW PELLTER CYMDEITHASOL

Roeddwn yn poeni am gasglu’r plentyn o’i gartref, er hynny roeddwn yn gallu sefyll digon pell oddi ar y drws a cerddodd y plentyn draw ata’i. Gwnaeth hyn wneud i mi feddwl yn fwy manwl ac ysgrifennu polisi gollwng a chasglu, gan ystyried sut byddwn yn rheoli casglu a gollwng baban neu blentyn ifanc. Penderfynais mai defnyddio pram oedd y cam orau yn y sefyllfaoedd yma. Byddaf hefyd yn ystyried amseroedd penodedig gollwng /casglu.

Roedd cadw pellter cymdeithasol hefyd yn bryder wrth wahodd plentyn i mewn i’r lleoliad. Sut byddwn yn rheoli hyn gyda phlentyn bach a oedd yn profi pryder gwahanu? Penderfynais mai anghenion emosiynol y plentyn oedd yn bwysig a bod plentyn sydd angen cwtsh yn derbyn hyn. Mae angen i deuluoedd gwybod bod eu plentyn yn cael ei feithrin a dangos cariad tuag at. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei gydbwyso gan arferion hylendid gofalus a synnwyr cyffredin.

HYLENDID

Trwy ddilyn yr arweiniad am olchi dwylo’n ofalus rwy’n annog plant i olchi eu dwylo wrth gyrraedd, yn aml trwy gydol y dydd ac wrth adael fy lleoliad. Mae cotiau ac esgidiau yn cael eu gadael wrth y drws, ac nid oes esgidiau yn cael eu gwisgo yn y tŷ. Wrth sychu dwylo, mae’r plant yn defnyddio tywel bach glân sydd wedyn yn cael ei lanhau. Mae’r defnydd yma o ddefnyddio’r tywelion bach yn caniatáu imi ddilyn canllawiau rheoli heintiau a hefyd lleihau gwastraff.

Fe wnes i hefyd meddwl yn ofalus am y mathau a’r nifer o deganau ac adnoddau sydd gen i. Mae teganau meddal yn anodd cadw’n lân, felly penderfynais i roi nhw i ffwrdd dros dro. Rwyf hefyd wedi cywasgu’r nifer o deganau sydd ar gael er mwyn iddynt gael ei chylchdroi a glanhau’n hawdd ar ddiwedd pob dydd.

Mae hylendid y gegin yn bwysig iawn. Gofynnais i rieni i ddarparu bocs bwyd plastic sydd yn cael ei sychu yn syth wrth i’r plentyn gyrraedd, ac sy’n cael ei gadw mewn adran ar wahân yr oergell. Dwy hefyd wedi dechrau gwisgo menig wrth baratoi bwyd fel rhagofal ychwanegol.

CHWARAE TU ALLAN

Mud Kitchen
Mud Kitchen

Roeddwn mor hapus fy mod yn gallu defnyddio’r Grant Cyfalaf, derbyniwyd gan yr Awdurdod Lleol i wella’r ardd yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae chwarae yn yr awyr agored wedi dod yn bwysicach fyth gan nad ydynt yn gallu ymweld â pharciau cyhoeddus a chanolfannau chwarae. Rwyf wedi addasu fy arferion gweithio yma hefyd. Er enghraifft, yn ystod chwarae tywod rwy’n darparu hambyrddau o dywod ar wahân i’r plant. Yn ystod chwarae tywod darparaf hambyrddau o dywod unigol i’r plant. Ar gyfer chwarae dŵr rwyf wedi ychwanegu sebon at hyn ac yn defnyddio powlenni unigol i sicrhau nad oes unrhyw gyswllt corfforol rhwng plant yn ystod y gweithgaredd. Mae hyn yn hwyl ychwanegol gyda’r swigod ac yn annog gemau golchi dwylo.

Rwy’n hapus fy mod wedi gallu cefnogi’r teulu drwy’r argyfwng hwn ac mae gwneud hynny wedi rhoi cyfle imi ailfeddwl am fy arferion gwaith, ac adlewyrchu ar fy arferion hylendid. Rwy’n parhau i addasu trwy asesu gwahanol sefyllfaoedd risg ac anghenion gwahanol blant. Teimlaf fy mod wedi paratoi’n dda ar gyfer yr amser i ailagor yn llawn yng Nghymru.

Darllenwch brofiadau eraill a chewch hyd i adnoddau yn ‘Spotlight’ Coronafeirws.