Blog: Gofal Plant Allysgol a chymorth cyllid
Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs fel cyfundrefn gyfan, ac fel tîm, wedi bod yn unedig yn dysgu ffyrdd newydd o gefnogi’r Sector Gofal Plant Allysgol. Rydym wedi dysgu pa mor anodd y mae wedi bod i’r nifer fawr o leoliadau, â chyfansoddiadau gwahanol, i gael mynediad at gefnogaeth, boed honno’n gefnogaeth ariannol neu’n gyngor a chanllawiau, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cefnogi eu staff, y rhieni, a’r plant y maent yn gofalu amdanynt drwy gydol y pandemig hwn.
Rwyf yn hyderus bod ein sector wedi gwerthfawrogi ein cefnogaeth; mae’r holl dystiolaeth hanesiol o alwadau ffôn, e-byst a negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn dangos pa mor fregus y mae’r sector wedi teimlo, a sut drwy gysylltu â nhw, yr ydym wedi’u helpu i ddod i benderfyniadau ynglŷn â’u lleoliadau er mwyn goroesi.
Drwy ein cyswllt â lleoliadau daeth yn fwy nag amlwg bod sawl agwedd ar y sector wedi ‘syrthio drwy’r rhwyd ariannu’. Mae cyfansoddiadau’r lleoliadau yn wahanol i’w gilydd, o’r rhai A Reolir yn Wirfoddol [yn anghorfforedig ac yn gorfforedig], rhai sy’n cael eu rhedeg gan Fasnachwyr Unigol, neu gan Bartneriaeth, yn ogystal â’r rhai hynny sydd yn Gwmnïau Preifat Cyfyngedig, ac sydd, mewn sawl ffordd, wedi bod yn analluog i gyrchu unrhyw ariannu i’w cefnogi drwy’r argyfwng hwn, ar gyfer y presennol a’r dyfodol.
Yn rhan o bartneriaeth CWLWM, mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi ceisio mynd i’r afael â’r bylchau hyn drwy ysgrifennu at Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, darparu data ar ein lleoliadau gofal plant ar gyfer eu swyddogion, a sut y maent wedi eu heffeithio gan brinder argaeledd ariannu i sicrhau goroesedd rhannau helaeth o’r sector.
Ymhlith rhai o’r materion y tynnwyd sylw atynt, ar ran y sector, ac er mwyn dangos prinder y gefnogaeth gan Lywodraethau’r DU a Chymru yw:
Grant Rhyddhau Ardrethi Busnes – ni all lleoliadau gyrchu hwn gan eu bod yn rhentu lle mewn adeiladau cymunedol, ac nid, felly, y prif dalwr ardrethi.
Cronfa Cadernid Economaidd – mae busnesau gofal plant wedi eu heithrio rhag TAW, ond ychydig sydd â throsiant o dros £85K felly ni allant gyrchu’r gronfa hon ychwaith.
Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig a Thâl Saib – nid oes gan rai Cyfarwyddwyr Cwmnïau Cyfyngedig hawl i’r ariannu hyn gan y cânt eu talu drwy ddifidend ac nid TWE.
Gwarchodaeth Yswiriant rydym wedi herio un o brif ddarparwyr yswiriant i’r sector Gofal Plant Allysgol, nad ydynt ar hyn o bryd yn talu am golled incwm o dan eu Polisïau Allysgol.
Cronfa Gwydnwch y 3ydd Sector a Chronfa Argyfwng y Sector Gwirfoddol nid oes modd i leoliadau nad ydynt yn elusennau cofrestredig nac yn Sefydliadau Elusennol Corfforedig (SECau) gael mynediad at y gronfa hon, rheolir 37% o’r sector gan Gynghorau a Reolir yn Wirfoddol ac mae 61% o’r rhain yn anghorfforedig.
Bydd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn dal i weithio gyda Llywodraeth Cymru drwy gynrychioli’r Sector a gweithio tuag at gael mecanwaith ariannu priodol yn ei le i sicrhau bod y Sector Gofal Plant Allysgol nid yn unig yn goroesi, ond yn abl i adfywio a ffynnu, a pharhau i fod yn rhan annatod o economi sylfaenol Cymru.
Jane O’Toole
Prif Swyddog Gweithredol