Blog: Cynyddu Gwydnwch Busnes yn eich Lleoliad Gofal Plant

Building Resilience in your Childcare Setting

Daeth pandemig Covid-19 a’r dirywiad economaidd cysylltiedig â bygythiad difrifol i’r sector gofal plant. Er y gwyddom y bydd gofal plant hygyrch ar gynnydd unwaith eto wrth i rieni/gofalwyr ddychwelyd i’w gwaith, mae pryderon  ar raddfa eang ynghylch cynaliadwyedd.

Rhagwelir gan lawer ostyngiad mewn presenoldeb ac felly’r incwm o ffioedd. Mae’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws a’r Cynllun Cymhorthdal Incwm i’r Hunangyflogedig wedi bod yn achubiaeth o ran cadw staff gwerthfawr, sef asedau allweddol eich busnes gofal plant, ond wrth ddechrau meddwl am ailagor, mae pryder mawr ynghylch  sut y gall busnesau gofal plant ateb yr holl gostau drwy incwm ffioedd yn unig.

Bydd rhagolwg llif arian yn eich helpu i gadw ar y llwybr cywir tuag at gynaliadwyedd. Ei bwrpas yw rhagweld incwm a gwariant am y flwyddyn a’ch helpu i ragweld, yna i wneud penderfyniadau ymarferol a gosod prosesau yn eu lle i osgoi colledion ariannol.  Llif arian gwael yw un o’r prif resymau am fethiant busnesau.  Gellir hefyd ei ddefnyddio i arddangos eich cynaliadwyedd yn y tymor hir (a/neu’r angen yn y tymor byr am gymorth ariannol wrth roi strategaethau newydd i gefnogi cynaliadwyedd yn eu lle).  Mae gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs weminar byr, templedi rhagolwg llif arian hawdd i’w defnyddio ac adnoddau ar ariannu, gyda chefnogaeth Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant (SDBG).    Gellir hefyd ei ddefnyddio i ddangos i arianwyr fod gennych system cynllunio ariannol gynhwysfawr.

Bydd gwella fforddiadwyedd eich Lleoliad Gofal plant hefyd yn hwb ychwanegol i  bresenoldeb, incwm a chynaliadwyedd. Bydd bod wedi’ch cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn rhoi cyfle hefyd i chi gofrestru gyda CThEM am Ofal Plant Di-dreth. (https://www.gov.uk/government/news/tax-free-childcare-top-things-childcare-providers-should-know), gan alluogi rhieni cymwys sy’n gweithio i gael cyfraniad o 20% gan y llywodraeth tuag at ffioedd a chydag Awdurdodau Lleol o ran y Cynnig Gofal Plant – pan ddaw yn ôl – gan alluogi rhieni/gofalwyr plant 3-4 blwydd oed sy’n gweithio i gael  30 awr yr wythnos o addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae cofrestru gydag AGC hefyd yn rhoi sicrwydd i rieni ynghylch ansawdd, a gallech ddefnyddio hyn i hyrwyddo’ch lleoliad. Mae gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs dempled marchnata y gallwch ei addasu i hyrwyddo’r ffaith eich bod yn gofrestredig gydag AGC yn arwydd o ansawdd a fforddiadwyedd.

Mae’r dull o wneud cais i AGC wedi newid i fod yn ddull byrrach, symlach ac ar-lein; gall y SDBG gynnig help gyda hwn.

Mae cyfyngu eich atebolrwydd ariannol fel perchnogion busnes/aelodau pwyllgor hefyd yn hollbwysig.  Mae hwn wedi bod yn amser pryderus i bob busnes, ac nid yw cwmnïau yswiriant bob wedi talu allan bob tro.  Hefyd, bydd rhai arianwyr yn dyfarnu grantiau i Leoliadau corfforedig yn unig (sef rhai a gydnabyddir yn gorfforaeth gyfreithiol). Mae yn awr yn amser da i adolygu eich llywodraethiad, gyda’n cefnogaeth ni, a sicrhau bod perchnogion/aelodau’r pwyllgor wedi ‘u diogelu’n ddigonol. P’un a ydynt wedi’u rheoli’n breifat neu drwy bwyllgor rheoli gwirfoddol, gallwch gyfyngu’ch atebolrwydd personol drwy ddod yn gorfforedig (e.e. drwy gofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol).

I adlewyrchu ar bob agwedd ar eich lleoliad, gellir cwblhau’r Asesiad Gofal Plant Allysgol  https://forms.gle/AYYo6yNX6h8PXRZh7  ar-lein a gall hefyd ffurfio rhan o’ch Adolygiad Ansawdd Gofal i AGC.  Gall hyn gyfrannu at gynllun gweithredu y gellir ei gwblhau gyda’ch SDBG i wella ansawdd, cynaliadwyedd a chadernid eich busnes gofal plant.

Mae gan bartneriaid Cwlwm, bob un, arfau sector-benodol, adnoddau a staff i atgyfnerthu cynllunio ariannol, ymgeisio am ariannu, dod yn gofrestredig gydag AGC a dod yn gorfforedig, yn ogystal ag ar gyfer adrannau eraill o’ch busnes.

Peidiwch ag anghofio i barhau ag unrhyw arfer newydd sydd wedi gweithio’n dda yn ystod y cyfnod clo/gweithredu cyfyngedig, megis cyfarfodydd rhithwyr gyda’r staff neu ymgysylltu ar-lein â theuluoedd.

Bydd eich gallu i adfywio a ffynnu yn y misoedd i ddod yn hanfodol i blant a theuluoedd sy’n gweithio, a bydd cynyddu’ch gwydnwch yn eich gwneud yn fwy tebygol o allu goroesi yn y tymor hir.