Blog: Cydnabyddiaeth
Hoffwn gychwyn trwy ddiolch i’r sector gofal plant am eich ymroddiad a gwaith caled yn ystod y cyfnod digynsail hwn, o’r rhai yn eich plith sydd wedi aros yn agored er mwyn plant gweithwyr allweddol, i’r rhai ohonoch sydd wedi cau ond sy’n parhau i gadw mewn cysylltiad gyda ninnau a’r plant a theuluoedd sy’n mynychu’ch lleoliadau.
Ochr yn ochr â’n partneriaid Cwlwm, mae NDNA Cymru wedi mynegi pryder i Lywodraeth Cymru – yn uniongyrchol a thrwy’r bartneriaeth – gan amlinellu’r pwysigrwydd o gydnabod y sector gofal plant a gwaith chwarae yn rhan hanfodol o’r economi sylfaenol.
Rŵan, yn fwy nag erioed, mae angen cydnabyddiaeth o’r sector gan Lywodraeth Cymru. Yn rhan o hyn mae angen cefnogaeth wedi ei theilwra i’r sector gofal plant bydd yn galluogi darparwyr i barhau i gefnogi a datblygu ein plant ifengaf, ynghyd a’r gefnogaeth a darparwyd i deuluoedd. Mae angen cydnabyddiaeth bod y sector yn rhan allweddol o’r economi Cymraeg.
Roedd cynaladwyedd yn bryder gan nifer o feithrinfeydd Cymru hyd yn oed cyn i’r Coronafeirws gorfodi lleoliadau i gau eu drysau. Gwyddom fod y meithrinfeydd sydd wedi aros ar agor i gefnogi gweithwyr allweddol a phlant sy’n agored i niwed yn colli cannoedd o bunnoedd bob wythnos. Ar yr un pryd, mae nifer sydd wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i gau yn pryderu na fyddant yn medru ail-agor unwaith i bethau sefydlogi.
Rwy’n ymwybodol fod Llywodraeth y DU a Chymru wedi darparu amryw o becynnau cefnogaeth i fusnesau sy’n dioddef yn sgil y Coronafeirws; fodd bynnag mae’r pryder yn parhau na fydd y cymorth yn gefnogaeth ddigonol i’r sector gofal plant a gwaith chwarae.
Isod rhestrir rhai o’r materion rydym wedi amlygu ar ran y sector:
- Cyllid – Mae’r darpariaethau sydd wedi aros ar agor i gefnogi gweithwyr allweddol a phlant sy’n agored i niwed yn gwneud hynny ar golled ariannol sylweddol, a dylen nhw dderbyn nawdd addas i’w galluogi i barhau a’u darpariaeth. Nid yw costau’r treuliau yn gostwng, er bod y nifer o blant sy’n mynychu (ac felly’r incwm) wedi lleihau’n sylweddol. Nid yw nifer o ddarparwyr yn medru cronni eu gwarged a’u cadw at gwymp tymor yr Hydref fel y byddant fel arfer yn eu gwneud; ac felly bydd gan y darparwyr hyn bryderon ychwanegol am hyfywedd ariannol eu busnesau yn nhymor yr Hydref.
- Yswiriant – mae nifer o feithrinfeydd wedi methu hawlio am golled busnes oddi ar eu hyswiriwr, ac rydym yn ymwybodol bydd polisïau’r dyfodol yn gwrthod sicrwydd yn erbyn y coronafeirws, gan olygu bydd yna ddiffyg sicrwydd yswiriant yn achosion y dyfodol.
- Ymchwiliad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) – golygai’r ymagwedd a chyhoeddwyd gan yr ACM bod lleoliadau gofal plant yn cael eu dal rhwng dwy stôl. Nid yw’r nawdd a dderbynnir yn gystadleuol na’n bris y farchnad, ac os oes rhaid i feithrinfeydd cymryd y penderfyniad torcalonnus i gau yna fydd plant a theuluoedd ar eu colled hefyd.
- Pontio – y posibiliad o gynyddu termau’r sector nas-gynhelir o ran darpariaeth blynyddoedd cynnar a ariannir, er mwyn galluogi plant i gychwyn yn hwyrach yn yr ysgol; a thrwy hynny, cefnogi’r proses pontio ac felly cefnogi lles plant a rhieni a lleihau’r pryder sy’n deillio o’r sefyllfa.
- Dileu swyddi – Amod o’r Gronfa Cadernid Cymru (CCC/ERF) oedd na fyddai cwmni yn cael dileu swyddi tra bod y Cynllun Cadw Swyddi dros gyfnod y Coronafeirws (CCS/JRS) yn weithredol. Mae paramedrau’r CCS wedi newid, felly mae angen ystyried hyn yn nhermau amodau’r CCC, ond hefyd yr effaith gall hyn gael ar swyddi’n cael ei dileu ar raddfa ehangach ar draws y sector o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth ariannol bellach.
Rwy’n ddiolchgar fod darparwyr wedi parhau i weithio gyda ni drwy’r cyfnod dyrys hwn, gan ein galluogi ni i gynrychioli’r sector mewn ffordd wybodus yn ystod ein trafodaethau cyfredol gyda llywodraethau’r DU a Chymru.
Gan bob un ohonom yn NDNA Cymru a’r tîm NDNA ehangach, gobeithiem eich bod chi a’ch timau’n cadw’n iach ac yn ddiogel. Bydd NDNA Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau dyfodol darparwyr gofal meithrin yng Nghymru.