Blog: Chadw Pellter Cymdeithasol
Yn ystod yr adeg heriol hon, wrth i ni ddechrau ar ffordd newydd o agor ein Lleoliadau Gofal Plant, mae llawer o bethau i’w hystyried o ran y plentyn, y teulu, yn ogystal ag wrth gefnogi’r Sector Gofal Plant yn y tymor hir. Un o’r heriau hyn fydd ymbellhau cymdeithasol.
Bydd hyn yn anodd gan na fydd plant ifanc yn gwybod, nac yn deall yn llawn pam na allant chwarae’n agos gyda’u ffrind gorau. Rydym bob tro’n annog plant i chwarae gyda’i gilydd, meithrin cyfeillgarwch, rhannu a chymryd eu tro. Bydd hyn yn anodd iddyn nhw ei brosesu wrth ddychwelyd i’r clybiau. Bydd yn ddryslyd, ond gallwn wneud hyn yn araf ac yn ofalus er mwyn helpu’r plant. Bydd staff y Clwb a’r rheini’n addasu i ffordd newydd o chwarae a rhyngweithio.
Yn y tymor byr bydd angen i’r staff ddilyn arweiniad tymor byr Llywodraeth Cymru ac i ddeall ffordd newydd o weithio, i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion grŵp llai o blant ac yn datblygu hyder mewn dulliau newydd. Bydd angen i’r staff ddeall y rhwystrau, yr heriau a sut y gallant oresgyn y rhain gyda’r plant. Bydd yn bwysig gwrando ar blant a chael yr amser i adlewyrchu ar ddulliau newydd a chyflwyno newidiadau i’r dulliau yma (yn ôl diwygiadau i’r arweiniad) mewn ffordd a fydd yn glir i bawb.
Bydd angen i rieni gael y sicrwydd y bydd eu plentyn yn ddiogel, ond y bydd yn dal i dderbyn gofal trugarog, a chefnogaeth i’w llesiant emosiynol. Gall plant gael gweithgareddau chwarae unigol sy’n eu galluogi i gael profiadau sy’n debyg i’r rhai a geid yn sesiynau blaenorol y Clwb, o fewn yr arweiniad a roddir ar ymbellhau cymdeithasol. Byddant yn datblygu dealltwriaeth o sut y gallant ryngweithio gyda’u ffrindiau drwy gemau a gweithgareddau newydd a fydd yn cyffroi eu chwarae.
Bydd pob lleoliad yn ymgymryd ag asesiadau risg perthynol i’w hamgylchiadau unigol, felly bydd pob un yn amrywio yn eu ffordd o fynd i’r afael ag ymbellhau cymdeithasol. Bydd angen i’r perchennog/rheolwyr a thimau werthuso’r gwasanaethau er mwyn galluogi’r nifer o bobl sy’n mynychu i wneud hynny’n ddiogel, ac i wneud newidiadau yn unol â newidiadau i’r arweiniad yn y dyfodol. Bydd y cyfleoedd i blant a staff gymysgu a rhyngweithio mewn grwpiau bychain ond cyson yn edrych yn wahanol iawn yn achos pob Lleoliad; mae gan rai fwy o ystafelloedd a mannau y gellir mynd iddynt, lle gallent greu swigod/grwpiau bychain. Bydd yn bwysig gwneud yn sicr bod asesiadau risg yn drwyadl a chryno. Mewn asesiadau risg dylai Lleoliadau ystyried gymaint â phosibl unrhyw leoedd sydd ar gael iddynt y tu allan i’r adeilad. Bydd hyn yn cynorthwyo’r Clwb i gyfyngu ar y trosglwyddo rhwng y plant.
Bydd hylendid yn y sesiwn o’r pwysigrwydd pennaf a dylid ei addasu’n ofalus i drefn newydd i’r plant drwy ddulliau procio ac atgoffa gweledol yn ystod gweithgareddau. Yn ein harolwg diweddar, adroddodd 77% o Glybiau Gofal Plant Allysgol ar bryderon ynghylch sut i ddarparu amgylchedd chwarae o ansawdd a fyddai’n unol â’r gofynion ar ymbellhau cymdeithasol a rheoli haint. I roi sylw i’r pryderon hyn, a’u lliniaru, rydym wedi datblygu adnodd cyflawn i leoliadau gofal plant er mwyn sicrhau eu bod yn gallu darparu cyfleoedd chwarae ar bellter cymdeithasol i’r plant yn eu lleoliadau pan fyddant yn dychwelyd.
Clare Dare,
Childcare Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant