Blog: Cefnogi

Supporting Transitions

Mae trawsnewidiadau’n rhan o’n bywydau pob dydd.  Rydym yn mynd trwy drawsnewidiadau’n aml heb sylweddoli hynny, ac yn defnyddio amryw o sgiliau i’n cymryd drwy’r broses.

Mae babanod a phlant ifanc mewn cyfnod parhaus o drawsnewid e.e. mae babanod yn symud o orwedd ar eu cefnau i rolio drosodd, o eistedd i fyny i gropian neu gerdded, ac mae plant ifanc yn symud o ddefnyddio ystumiau i gyfathrebu eu dymuniadau a’u hanghenion.  Wrth i blant dyfu, mae pob newid trawsnewidiol i’w cyrff a’u datblygiad yn wahanol, ac mae proses y newidiadau hyn a sut i ymdrin â nhw yn gwahaniaethu e.e. pan symudir i stafell newydd yn y lle gofal plant neu pan symudir ymlaen i’r ysgol.  Dyma hefyd sy’n wir yn achos plant hŷn; gallent fod yn symud i’r  ysgol uwchradd, neu ddim bellach yn mynychu’r feithrinfa ac yn mynd i glwb ôl-ysgol newydd. Wrth i’r Cynnig Gofal Plant i Gymru gael ei dreialu, mae’n bosibl y bydd plant na fuont erioed o’r blaen mewn lleoliad gofal plant yn dechrau yn eich lleoliad chi, felly mae cefnogi trawsnewidiadau yn bwysig iawn.

Byddwch yn gefnogol – Mae oedolion cefnogol, sydd â rôl gefnogol gyda pherson allweddol yn rhan hanfodol o’r broses hon, wrth gynnig profiad sydd yn llwyddiannus ac yn gadarnhaol.  Cam pwysig yn ystod y newid hwn yw bod ymarferwyr yn ymgynghori â’r plant a’r rhieni a fydd yn cael eu heffeithio gan y newid hwn, er mwyn iddynt ddeall yr hyn sy’n digwydd, ac i hyrwyddo ymagwedd gadarnhaol drwy gydol y broses.

Dyma rai mathau o drawsnewid y gall plant fod yn eu profi:

  • Camau cynnydd datblygiadol h.y. dysgu cropian, cerdded, siarad.
  • Symud i stafell neu grŵp newydd yn y lleoliad.
  • Newid yn neinameg y teulu – rhieni’n gwahanu/ysgaru, brawd neu chwaer newydd/ychwanegiad at aelodau’r teulu.
  • Marwolaeth aelod o’r teulu neu anifail anwes a oedd yn annwyl iddynt.
  • Gwneud ffrindiau newydd neu colli ffrindiau.
  • Dechrau lleoliad neu ysgol newydd.
  • Symud tŷ (gall hyn gynnwys nifer o drawsnewidiadau e.e. gofalwr newydd/ysgol newydd/colli aelodau cefnogol o’r teulu).

Dod i wybod……Pan fydd plant newydd yn dechrau yn eich lleoliad mae’n bwysig eich bod yn cyfarfod â rhieni/gofalwyr plentyn er mwyn cael cymaint â phosibl o wybodaeth am brofiadau blaenorol y plentyn a faint o gefnogaeth a fydd ei hangen arnynt i ymgartrefu yn eu hamgylchfyd newydd.

Sut ydych chi’n cefnogi plant newydd?   A ydych chi’n hyblyg yn eich trefn?

Cynghorion campus

Cyngor campus 1 Gwnewch fwrdd ffotograffau ‘ein teuluoedd’ y gall plant eu defnyddio i rannu ffotograffau teuluol.  Gwnewch yn siŵr ei fod ar lefel y plentyn fel y gall edrych ar y ffotograffau trwy gydol y dydd a sôn am ei d/theulu.

Cyngor campus 2 Gwnewch lyfr lluniau’n sôn yn gyfan gwbl am eich lleoliad a ffotograffau o’r amgylchedd, aelodau o’r staff a rhai o’r gweithgareddau y mae’r plant yn hoff o’u gwneud wrth chwarae. Bydd y llyfr yn cefnogi’r plentyn a’r rhieni, ac yn rhoi i’r teulu, y cyfle i sôn am y lleoliad gartref.  Bydd hyn yn gysur i’r rhieni hefyd gan eu bod nhw yn ogystal yn profi newid.

Cyngor campus 3 Os yw’r plant yn dechrau mewn ysgol leol gallech osod yn ei le arddangosfa o’r ysgol a gofyn am eu caniatâd i gael ffotograffau o ystafell y dosbarth derbyn a’r tu allan, a llun o’u gwisg ysgol.  Bydd hyn yn galluogi’ch staff i siarad â’r plant am eu hysgol newydd.

Cyngor campus 4 Pan fydd y plant yn symud i ystafell / grŵp / lleoliad newydd gwnewch yn siŵr fod y person allweddol newydd a blaenorol yn cyfarfod â’i gilydd er mwyn i hoffterau ac anhoffterau’r plentyn, eu cyfnod o ddatblygiad, eu hanghenion gofal a’r profiadau y maen nhw’n eu mwynhau yn cael eu trosglwyddo’n llawn.

Cyngor campus 5 Cofiwch ddiweddaru rhieni’n barhaus ar y broses anwytho a’r gwahaniaethau a all fod mewn ystafell newydd, gan bwysleisio manteision y newid newydd yma a sut y bydd yn gymorth i ddatblygiad y plentyn a’i daith ddysgu.

Gall plant wrth fynd drwy drawsnewidiadau deimlo pryder dwys, tristwch, dicter, iselder neu gyffro.  Dylai ymarferwyr weithio gyda’r plant a’u teuluoedd i ddarparu amgylchfyd diogel er mwyn cynyddu eu hymddiriedaeth a datblygu perthynas gadarn sy’n rhoi cyfle i chi eu cynorthwyo gyda’u hanghenion unigol.  Bydd ymgynghori â phlant, lle bynnag y bo’n bosibl, yn sicrhau eu bod yn gwybod ac yn deall beth sy’n mynd i ddigwydd/pryd y bydd yn digwydd; bydd hyn yn datblygu’u sgiliau ac yn hwyluso trawsnewid llyfn.

Tagiau