Blog: Cadw Staff
Ers dechrau’r cyfnod clo mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, ar y cyd â’n partneriaid yn CWLWM, wedi parhau i gefnogi’r sector gofal plant, er i hynny olygu gweithio mewn ffordd newydd.
Yn ystod yr amser hwn mae’r sector gofal plant wedi datblygu ffyrdd dyfeisgar iawn o gefnogi’r teuluoedd hynny a fyddent fel arfer wedi bod yn defnyddio’u gwasanaeth. Mae cynlluniau ar droed ar hyn o bryd i sicrhau agor diogel nid yn unig y sector gofal plant ond yr holl wlad, gan gydnabod rôl hollbwysig y sector gofal plant yn eu cymorth i ailadeiladu economi Cymru.
Mewn adegau ‘normal’ [cyn Covid-19] fe wnaeth nifero leoliadau gofal plant gysylltu â ni fel cyfundrefn yn gofyn am gefnogaeth o ran yr heriau parthed y gweithlu yr oeddent yn eu hwynebu. Mae’r rhain wedi cynnwys recriwtio o’r newydd, oherwydd, gan fwyaf, diffyg cadw staff. Drwy gefnogaeth gyson i’n sector yn ystod y cyfnod clo, mae’n amlwg fod y pryderon yn parhau, nifer ohonynt o ran talu cyflogau, ynghylch a fydd Ymarferwyr Gofal Plant / Gwaith Chwarae yn dychwelyd, ac efallai recriwtio staff os na fyddant.
Dywedwyd sawl tro ei bod yn cymryd argyfwng i ddod â phobl at ei gilydd; rwyf i wedi gweld sut y mae argyfwng Covid-19 wedi uno’r tîm yn Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, wrth ddysgu ffyrdd newydd o gefnogi’r Sector Gofal Plant Allysgol, ond ni ddylai gymryd argyfwng i uno tîm. Mae recriwtio aelodau newydd o’r staff sydd â’r un ethos â’r lleoliad yn mynd ag amser, ac mae hefyd gost ariannol, a dyma pam y mae’n well cadw lle bo hynny’n bosibl, yn hytrach na recriwtio o’r newydd.
Mae’r gweithlu Gofal Plant Allysgol ar hyn o bryd yn cyflogi unigolion cymwys y tu hwnt, sy’n angerddol ac yn ymroddgar. Wrth gydnabod y rhain rwy’n siŵr y cytunwch fod angen i ni fel sector gadw’r unigolion hynny wrth symud ymlaen ac wrth edrych tuag at ailagor ein drysau.
Y tîm gorau i’w gael i’w rhai hynny sy’n cael cynnig swydd arall ond eto sy’n dewis aros lle y maent. Rwy’n sylweddoli bod hyn yn swnio fel y tîm delfrydol i’w gael, ac er nad yw meithrin tîm yn hawdd i’w wneud- mae’n golygu gwaith – rwy’n hyderus yn eich gallu i wneud hyn.
Fel cyflogwr, mae’n bwysig gweld bod gan gyflogai 3 math o ymroddiad tuag atoch:
- Math 1: Sy’n Weithiol yn eu Hymgysylltiad
- Math 2: Diffyg Ymgysylltu
- Math 3: Sy’n Weithiol yn eu Diffyg Ymgysylltu
Mewn byd perffaith byddai gennych dîm â phawb yn deip 1, ac rydym ni’n byw yn y byd real.
Yn Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs rydym wedi cymryd y cyfle hwn i gynnwys y tîm llawn yn y cynlluniau ar gyfer sut fydd hi ar ddychwelyd i fywyd swyddfa. Rwy’n annog perchennog a phwyllgor rheoli i wneud yr un fath. Mae cael aelodau o’r staff i fod yn rhan o’r broses gynllunio yn dangos gofal ac ymrwymiad o ran eu llesiant, ynghyd ag yn rhoi gwerth ar eu mewnbwn i’r busnes. Fel cyflogwr, mae ymgysylltu mewn ffordd weithiol â chyflogeion yn cynhyrchu cyflogeion sy’n weithiol yn eu hymgysylltiad, sy’n ymroddedig i helpu eu Clwb Gofal Plant Allysgol adfywio a ffynnu.
Nicole Lovatt
Rheolwr Rhanbarthol, Gogledd Cymru