Blog: Buddion Darpariaeth Gofal Plant o Safon
Mae chwarae yn angen ac yn hawl i bob plentyn.
Mae amgylcheddau chwarae o ansawdd a gynigir gan leoliadau gofal plant yn cefnogi datblygiad seicolegol, cymdeithasol, gwybyddol a chorfforol plant. Mae hefyd yn cefnogi eu hiechyd meddyliol a’u lles.
Gall lleoliadau gofal plant helpu ein plant i wella a ffynnu drwy Covid-19 ac maent hefyd yn hanfodol ar gyfer ein hadferiad economaidd cenedlaethol. Yn awr yn fwy nag erioed, mae angen i Gymru gefnogi’r sector gofal plant er mwyn sicrhau y gall ein cymunedau barhau i elwa o’r cyfan sydd ganddi i’w gynnig.
Mae Newyddlen Cwlwm ar gyfer Tymor yr Haf yn cynnwys astudiaethau achos gwych, sy’n amlinellu rhai o’r manteision niferus wrth fynychu darpariaeth gofal plant o safon. Isod, ceir rhai straeon diddorol ychwanegol am ofal plant a gwaith chwarae.
Astudiaeth achos:
Clybiau Plant Cymru Kids Clubs: Cool Kids @ Cradoc
Mudiad Meithrin: Astudiaeth achos rhiant a phlentyn mewn Cylch Meithrin (Sir Ddinbych)