Newyddion: Llythyr at y Gweinidogion Addysg ac Iechyd oddi wrth Cwlwm

Cwlwm Logo with Rainbow

On the 11th February 2021, the Cwlwm partners wrote a letter to the First Minister, Minister for Education, Minister for Health and Social Services and the Deputy Minister for Health and Social Services to draw attention to concerns about how announcements that jointly include education, childcare and playwork are presented and the impact that has. 
 


Annwyl Brif Weinidog, y Gweinidog Addysg, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ar ran y sector gofal plant a gwaith chwarae, fe hoffem ni dynnu eich sylw at ein pryderon ynghylch sut y mae cyhoeddiadau sy’n cynnwys addysg, gofal plant a gwaith chwarae’n cael eu cyflwyno a’r effaith y mae hynny’n ei gael.

Drwy’r pandemig, rydym wedi wynebu her gan ein haelodau a’r sector ehangach fod y sector addysg yn cael blaenoriaeth dros y sector gofal plant, blynyddoedd cynnar a gwaith chwarae.  Fel sefydliadau sy’n gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi talu sylw cymesur i’r pryderon hyn.  Rydyn ni wedi cynghori haelodau a’n rhanddeiliaid bod Llywodraeth Cymru’n cydnabod eu cyfraniad yn cefnogi plant a’u teuluoedd, a’r cyfraniad pwysig y mae gofal plant a gwaith chwarae wedi’i wneud wrth ymateb i’r pandemig yng Nghymru.  Rydyn ni hefyd yn cydnabod bod Gweinidogion wedi talu teyrnged i staff yn y sector gofal plant a gwaith chwarae.  Yn benodol, cafodd y llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn y Nadolig groeso mawr.

Ers mis Ionawr, fel sefydliadau ymbarél ar gyfer y sector, mae Cwlwm wedi wynebu pryder cynyddol bod ein haelodau’n cael eu trin yn wahanol i ysgolion a’u bod yn gorfod cymryd risgiau, drwy aros ar agor i bob plentyn, nad yw athrawon yn eu hwynebu.  Eto, rydym ni wedi ymateb yn gymesur ac yn sensitif mewn ymdrech ar y cyd i gefnogi Llywodraeth Cymru ac i dawelu pryderon ynghylch risgiau i iechyd staff. Rydyn ni wedi seilio ein hymatebion ar y dystiolaeth wyddonol sy’n cael ei rhannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n siomedig, felly, pan fydd datganiad gan y cabinet, wedi’i ysgrifennu ar y cyd gan y Gweinidogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Addysg yn cael ei gyhoeddi, nad yw gofal plant a gwaith chwarae’n cael ei gynnwys yn benodol yn y datganiad llafar.  Dim ond tua hanner dwsin yn rhagor o eiriau fyddai ei angen i gynnwys gofal plant a gwaith chwarae yn yr araith.  O’u gadael allan, mae pob partner Cwlwm yn wynebu ymateb emosiynol gan ddarparwyr gofal plant a gwaith chwarae, yn dweud unwaith eto eu bod yn teimlo mai addysg sy’n dylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru a bod hynny’n cael blaenoriaeth dros weithwyr gofal plant a gwaith chwarae.

Mae Cwlwm yn gwerthfawrogi bod y cynllun profi, a gafodd ei gyhoeddi ar 5 Chwefror, wedi’i baratoi ar y cyd, ac yr un pryd, ar draws adrannau addysg ac iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae ail adrodd ‘ysgolion’ yn y datganiadau hyn yn creu momentwm sy’n anodd ei atal, hyd yn oed ar ôl derbyn datganiadau wedi’u hysgrifennu ar y cyd.  Gyda pharch, rydym yn gofyn i Weinidogion ystyried cynnwys gofal plant a gwaith chwarae yn eu datganiadau llafar, ar y cyd ag ysgolion, pan fydd y polisi’n berthnasol i’r ddau sector.  Byddai hyn yn cael cryn effaith ar y sector gofal plant a gwaith chwarae.  Byddai’n helpu i godi statws y sector.  Byddai’n dangos fod y gweithlu’n cael ei werthfawrogi ar bob lefel o Lywodraeth Cymru.  A byddai’n sicrhau staff yn y sector gofal plant a gwaith chwarae bod eu hiechyd, diogelwch a’u proffesiynoldeb nhw yr un mor bwysig â rhai eu cydweithwyr mewn addysg.

Yn gywir

Yours sincerely

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin

David Goodger, Prif Weithredwr, Blynyddoedd Cynnar Cymru

Jane O’Toole, Prif Weithredwr, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Claire Protheroe, Prif Swyddog, Pacey Cymru

Sarah Coates, Prif Swyddog, NDNA Cymru

Cwlwm logos