Newyddion: Er budd y plant: Galwadau Cwlwm am Ddyfodol Tecach

Mae gwasanaethau blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yn hanfodol er mwyn i blant Cymru gael dechrau cadarnhaol, plentyndod chwareus ac i gymunedau ffynnu. Maent yn darparu’r gwasanaethau allweddol ar gyfer datblygiad plant ac yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi teuluoedd ledled Cymru. Mae’r busnesau, yr elusennau a’r gweithlu’n canolbwyntio ar ddarparu profi adau gofal plant o ansawdd uchel i blant o’u geni – 12 oed.

Mae’r blynyddoedd cynnar yn gyfnod hollbwysig. Yn ystod y cyfnod hwn, mae plant ifanc yn mynd drwy newidiadau sylweddol yn eu datblygiad gwybyddol a chorfforol sy’n gosod y tempo ar gyfer sut rydym yn byw ein bywydau. Mae’r sector blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae wedi’i gynllunio I gefnogi’r datblygiad hwn, gan ddarparu cefnogaeth i bob plentyn, beth bynnag fo’u cefndir.

Mae maniffesto Cwlwm yn cydnabod pwysigrwydd hyn yn nhermau polisi, gan greu gweledigaeth o ddarpariaeth gofal plant cynaliadwy hirdymor a fydd yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o blant ifanc yng Nghymru am ddegawdau i ddod.