Newyddion: Diogelu plant a phobl ifanc gyda’n gilydd wrth ailgodi ar ôl COVID-19

Diogelu plant a phobl ifanc gyda’n gilydd wrth ailgodi ar ôl COVID-19

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio’r canllawiau anstatudol hyn i atgoffa ymarferwyr sy’n gweithio ar draws asiantaethau o’u cyfrifoldebau i ddiogelu plant, ac i’w cefnogi i ymateb i bryderon ynghylch plant sy’n wynebu risg. 

https://llyw.cymru/cadw-plant-phobl-ifanc-yn-ddiogel-canllaw-anstatudol-i-ymarferwyr 

Mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi creu heriau newydd ac anodd i bawb. Mae llawer o gartrefi wedi bod o dan straen neu wedi wynebu sefyllfaoedd anodd oherwydd effaith gymdeithasol, seicolegol ac economaidd y pandemig a’r cyfyngiadau. Rydym yn gwybod bod ymarferwyr sy’n gweithio ar draws asiantaethau yn y sector statudol a’r trydydd sector wedi gorfod addasu’n gyflym i ffyrdd newydd o weithio, gan barhau i sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael eu cefnogi. Mae gwasanaethau wedi gwneud popeth y gallant o dan amgylchiadau anodd ond rydym yn ymwybodol y bydd rhai plant, yn anffodus, wedi cael niwed yn ddiarwybod inni.

Mae llawer o ymarferwyr yn brofiadol iawn mewn arferion diogel; ond efallai na fydd eraill yn teimlo mor hyderus yn y maes hwn. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth y bydd llawer o ymarferwyr eisoes yn ymwybodol ohoni ond ein gobaith yw y bydd rhoi’r wybodaeth hon at ei gilydd mewn un ddogfen yn ddefnyddiol.

Mae’r canllawiau hyn yn gysylltiedig â Gweithdrefnau Diogelu Cymru a dylid eu darllen ar y cyd â nhw. Mae modd lawrlwytho’r gweithdrefnau i’ch ffôn symudol. Mae dolenni i lawrlwytho’r ap ar waelod hafan y wefan drwy’r ddolen uchod. Ar ôl ichi lawrlwytho’r ap, ni fydd angen cysylltiad Wi-Fi arnoch i ddarllen y gweithdrefnau.

https://llyw.cymru/cadw-plant-phobl-ifanc-yn-ddiogel-canllaw-anstatudol-i-ymarferwyr