Newyddion: Cyfres o Sesiynau DARPL i Ymarferwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar
Mae cyfres dysgu proffesiynol DARPL i ymarferwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yn cynnwys tair sesiwn sy’n dadbacio gwrth-hiliaeth ac yn archwilio camau y gellir eu gweithredu mewn lleoliadau gofal plant, gwaith chwarae, gwarchod plant ac addysg blynyddoedd cynnar.
Mae’r gyfres hon yn archwilio effaith hiliaeth ar les a bywydau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig eraill a materion a allai effeithio’n andwyol ar blant ifanc a’u teuluoedd.
Mae’n bwysig bod gwrth-hiliaeth yn cael ei yrru’n weithredol yn ein harferion proffesiynol bob dydd, er mwyn sicrhau bod pob lleoliad gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn effeithio ar newid a gwelliant cadarnhaol. Mae’r sesiynau byw hyn yn cynnig lle i rannu meddyliau, cynnig arweiniad a chael thrafodaeth gyda’r cyflwynwyr a’r cyfoedion sy’n mynychu.
Cadwch y dyddiad yn rhydd..
Mehefin 17, 24, Gorffennaf 1 - manylion archebu ticedi i ddilyn
Gorffennaf 2, 9, 16 - Archebwch ar-lein