Blog: Pled i'r Gweinidog Addysg am gefnogaeth barhaus.
AR 26 MAI 2020, YSGRIFENNODD DAVID GOODGER, PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL BLYNYDDOEDD CYNNAR CYMRU Y BLOG A GANLYN – PLE I’R GWEINIDOG ADDYSG AM GEFNOGAETH BARHAUS I’R SECTOR A MWY O GYDWEITHREDU WRTH FEDDWL RHWNG ADRANNAU GWEINIDOGOL YN LLYWODRAETH CYMRU.
Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru a’n partneriaid yn Sefydliadau Ymbarél Cwlwm wedi bod yn gweithio i gynnal ein haelodau yn y sector blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yn ystod y pandemig. Ni fu cyfnod fel hwn o’r blaen ac mae yna broblemau newydd yn codi i bawb. Rydyn ni’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymdrechu i gefnogi a diogleu pobl Cymru trwy’r argyfwng hwn. Rwy’n ysgrifennu’r blog hwn cyn ail ran a chamau nesaf y bwriad i ‘lacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a’n heconomi’ yng Nghymru.
Yn gyntaf, mae’n bwysig cydnabod gwendidau’r sector gofal plant. Mae yna’n dal broblemau ariannu sydd heb eu datrys, mae hynny’n achosi tensiynau yn y sector ac rwy’n gwybod y bydd partneriaid yn trafod y problemau hyn yn eu blogiau. Mae yna rai pwyntiau ychwanegol yr hoffwn i eu cyflwyno i’w hystyried ac rwy’n teimlo y dylai’r rhai sy’n cymryd penderfyniadau eu cydnabod yn y dyddiau i ddod.
Wrth i Gymru symud tuag at ‘lacio’r cyfyngiadau’, mae’n amserol atgoffa pawb fod y sector gofal plant wedi gwneud gwaith amhrisiadwy yn y cyfnod anodd hwn. Mae llawer o leoliadau wedi aros ar agor i ddarparu gofal i blant gweithwyr hanfodol. O dan rai amgylchiadau, mae hynny wedi golygu croesawu plant o leoliadau anghyfarwydd, sicrhau dilyniant i’r plant hynny a hyrwyddo’r ymateb cenedlaethol i alluogi rhieni i ddal ati gyda’u gwaith hanfodol. Ym mhob achos, mae hyn wedi golygu cefnogi plant ifanc a chefnogi eu rheini’n emosiynol er mwyn i’r plant allu bod yn hapus ac i roi sicrwydd i rieni fod eu plant yn ddiogel. Mae’r staff sy’n gweithio yn y lleoliadau hyn yn haeddu ein cydnabyddiaeth ni oll a hefyd ein hymrwymiad i ddal i’w cefnogi yn y cyfnod llacio a thu hwnt.
O gofio am yr effeithiau ariannol ac am bryder rhieni wrth lacio fesul cam, rwy’n teimlo ei bod yn bwysig nodi y bydd lleoliadau sydd wedi cau oherwydd y pandemig yn agor o dan amgylchiadau gwahanol iawn. O ganlyniad, ni fydd y modelau ariannol oedd yn cael eu defnyddio fis Chwefror yn agos at fod yn hyfyw. Er fod yna rai newidiadau yn y Safonau Cenedlaethol Gofynnol, ychydig iawn sydd yna o newidiadau yn y cymarebau staff–plant, sy’n deg, ond nid yw hynny’n galluogi lleolidau i newid eu patrwm staffio’n sylweddol i leihau costau. Felly hefyd, er diogelwch pawb, bydd yna fwy o gostau glanhau, diheintio a hylendid pan fydd lleoliadau’n ail agor. Rwy’n credu y bydd yn rhaid cydnabod rhywfaint ar effeithiau hyn ac y bydd yn anorfod y bydd yn rhaid cael arian i gadw lleoliadau rhag cau am byth; ni all y gwasanaethau hyn ddal ar agor ac ysgwyddo colledion wrth redeg eu busnesau. Does dim digon o arian wrth gefn i wneud hynny,
Rwy’n cael fy nghalonogi wrth weld fod mwy o ystyriaeth wedi’i roi wrth drafod llacio’r cyfyngiadau nag a gafwyd wrth orfodi’r cyfnod clo ar ein dibyniaeth ar ei gilydd y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant, a’r sector addysg sy’n cael ei gynnal. Heb y sector gofal plant a chwarae yn y blynyddoedd cynnar, byddai’r sector addysg sy’n cael ei gynnal yn cael trafferth i ddal ati; ni fyddai cymaint o athrawon ar gael i addysgu na chymaint o staff atodol mewn ysgolion i wneud y gwaith gweinyddu pwysig ar gyfer myfyrwyr. Ymhellach, mae llawer o leoliadau blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae yn rhannu campws gydag ysgolion, felly mae penderfyniadau ynghylch un yn effeithio ar y lleill. Er bod eu portffolios yn perthyn i Weinidogion gwahanol, mae’n rhaid ystyried pob sector wrth gymryd pob penderfyniad.
Bydd y misoedd i ddod yn rhai anodd i bob sector, ond mae’r rhai sy’n gweithio gyda phlant a’u teuluoedd ar flaen y gad wrth wynebu’r problemau. Rwy’n gwybod y bydd y sector gofal plant yn codi i’r her, yn gweithio’n dda ac yn ddiflino i ddarparu’r gofal, addysg a’r profiad gorau i bob plentyn ac i’r teuluoedd y maen nhw’n eu gwasanaethu. Yr hyn rwy’n ei ofyn yw bod y rhai sy’n cymryd penderfyniadau a’r rhai sy’n rhoi cefnogaeth ariannol yn cydnabod ac gwerthfawrogi’r sector drwy roi iddi y polisiau, y gefnogaeth ymarferol, y gefnogaeth ariannol a’r gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu.