Blog: Gweithio yn Partneriaeth a Rhentu

Partnership Working and Rent

Mae ymlediad Covid-19, er iddo ddod â sawl sialens yn ei sgil, hefyd wedi dangos yr ysbryd cymunedol rhyfeddol sy’n bodoli ar hyd a lled Cymru, a sut y mae unigolion yn uno i gefnogi ei gilydd a’r gwasanaethau yn eu cymuned sy’n werthfawr yn eu golwg. 

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs erioed wedi bod yn o blaid Clybiau Gofal Plant Allysgol yn gweithio mewn partneriaeth â  pherchnogion y mannau cyfarfod y maent yn eu rhentu, boed y rheiny’n ysgolion, landlordiaid preifat neu bwyllgorau eglwysi/adeiladau cymunedol.  Mewn blog diweddar fe wnaethom ganolbwyntio ar yr angen i Ysgolion a Darparwyr Gofal Plant weithio mewn partneriaeth â’i gilydd i ateb anghenion eu cymuned leol a galluogi Darpariaethau Gofal Plant Allysgol i ailagor yn dilyn y Pandemig.

Mewn arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, rhagwelodd 92% o’r Clybiau Gofal Plant Allysgol y byddai gostyngiad yn y nifer o leoedd a fyddai’n cael eu cymryd pan fyddai modd iddynt ailagor i’r cyhoedd yn gyffredinol.  Mae’r mwyafrif o Ddarparwyr Gofal Plant yn adolygu eu polisïau a’u gweithdrefnau ar hyn o bryd i weld a allant ddilyn y canllawiau ar bellter cymdeithasol yn ogystal ag i gael rhagolwg o’r incwm a’r gwariant posibl i weld p’un a allent redeg mewn ffordd gynaliadwy.  Ac ariannu cyfyngedig ar gael i’r mwyafrif o’r Sector Gofal Plant y tu allan i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth, mae Darparwyr yn ddibynnol ar gael incwm digonol (drwy ffioedd) i gyfateb â gwariant hanfodol (staffio, yswiriant, rhent, ffioedd proffesiynol a deunydd traul).

Un ffordd werthfawr y gall ysgolion, landlordiaid, Awdurdodau Lleol neu bwyllgorau gefnogi goroesedd  Darparwyr Gofal Plant lleol yw drwy newid dros dro y ffioedd a godir am ddefnyddio eu hadeilad.  Ychydig iawn o Ddarparwyr Gofal Plant Allysgol sy’n gwneud elw mawr y tu hwnt i’r hyn a lyncir gan gostau craidd.  Â rhagolwg o incwm dipyn yn llai, naill ai oherwydd gorfod lleihau eu capasiti yn y tymor byr tra bo mesurau pellter cymdeithasol yn ofynnol, neu oherwydd ffactorau a allai gyfyngu ar nifer y lleoedd a gymerir yn nes ymlaen yn y flwyddyn (cynnydd mewn diweithdra neu rieni’n parhau i weithio o gartref), y mae’n debygol y cymer amser i Ddarparwyr Gofal Plant adfer yn ariannol ac adeiladu yn ôl i’r lefelau cyn-Covid.

Fel landlord, efallai y bu modd i chi wneud cais am gymorth ariannol megis Grant Rhyddhau Ardrethi Busnes, y gellir defnyddio rhan ohono o gefnogi mentrau cymunedol eu bryd, sy’n gweithredu o’ch adeilad, rhai megis Clybiau Gofal Plant Allysgol, i roi cyfle iddyn nhw redeg mewn ffordd gynaliadwy yn ystod y cyfnod heriol hwn.  Mae man cyfarfod cymunedol yng Nghaerdydd wedi  dewis cymryd y llwybr hwn ac y mae’n cymorthdalu rhent y Darparydd Gofal Plant sy’n defnyddio’u neuadd yn ôl y ganran y maen nhw wedi gorfod lleihau eu capasiti i ateb y gofynion presennol ar bellter cymdeithasol.

Lle bo hynny’n bosibl, gallai landlordiaid/ysgolion/pwyllgorau edrych ar ostwng dros dro y rhent a godir ar asedau cymunedol gwerthfawr, hyd yn oed lle na chafwyd mynediad at grant.  Bydd cefnogi Darparwyr Gofal Plant, dros y cyfnod hollbwysig yma, yn eu galluogi i gymryd yr amser sydd ei angen arnynt i adfywio, tra byddant yn cefnogi rhieni/gofalwyr yn eich cymuned i ddychwelyd i fyd cyflogaeth. Bydd cyfarfodydd rhwng landlordiaid a Darparwyr Gofal Plant i gyfathrebu’n effeithiol, trafod heriau ac atebion posibl, hyd yn oed os yw hyn yn ymrwymo i rewi’r hyn a godir mewn rhent am weddill y flwyddyn yn hytrach na rhoi gostyngiad, gobeithir, yn lleihau’r tebygolrwydd o Ddarparwyr Gofal Plant o ansawdd yn cynnal eu gwasanaeth mewn ffordd anghynaladwy, gan gael eu gorfodi i oedi ailagor neu gau yn gyfangwbl.

Bydd y Sector Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae â rôl hanfodol yn yr adferiad economaidd yn dilyn Covid-19, ac felly mae’n hollbwysig ein bod, ar y cyd, yn cydnabod eu gwerth, ac yn cefnogi’r busnesau hyn i oroesi.

Naomi Evans
Rheolwr Rhanbarthol De Ddwyrain Cymru