Blog: Dysgu yn Gymraeg
I mi, mae Cymraeg yn bersonol, dyna pwy ydw i; mae fy nghyfenw’n Gymreig. Dyma iaith gyntaf fy rhieni a’m mam-guod/tad-cuod. Yn wir, dyma’r iaith gyntaf a siaradais i.
Mae Cymraeg yn fap ffordd o’m diwylliant. Mae’n dweud wrthyf ym mhle y mae fy nheulu wedi bod, ac i ble yr ydym yn mynd fel gwlad.
Mae siarad Cymraeg yn bwysig iawn i mi er mwyn teimlo wedi’n gysylltiedig â’m cymuned, ac er i mi wneud fy Ngradd a’m Gradd Uwch drwy gyfrwng y Saesneg, mae’r rhan fwyaf o’m dysgu wedi bod mewn ysgolion cyfrwng-Cymraeg.
Ynghyd â dysgwyr newydd yr iaith, roeddwn/rwy’n dal i deimlo’n hynod bryderus wrth siarad Cymraeg ag oedolion sy’n fwy sylwgar na mi yn ramadegol ac yn academaidd, gan y byddwn i’n categoreiddio fy hun yn un sy’n siarad Cymraeg llafar. Felly, gan gadw hyn mewn cof, a chan gymryd naid ffydd, rwyf wedi penderfynu gwneud rhan o’m cymhwyster newydd yn Gymraeg. Rwy’n credu y bydd hyn yn fy ngwthio y tu hwnt i’m cylch cysur ac yn ymestyn fy ngwybodaeth o’r iaith. Bydd hefyd yn dangos i’m cyflogwyr fy mod yn fodlon bod yn hyblyg.
Bydd y wybodaeth estynedig yma o’r iaith yn help arbennig yn yr ardaloedd o Gymru lle byddaf yn gweithio, gan eu bod ymysg yr ardaloedd o’r wlad sydd â’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg.
Fel y gwyddom, yng Nghymru, mae rheidrwydd cyfreithiol arnom i ateb y ffôn ac unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg. Bydd ein plant yn dysgu yn ddwyieithog, a fydd, dwi’n meddwl, o fudd mawr iddyn nhw mewn economi byd-eang lle mae’r ffiniau’n mynd yn gulach drwy’r defnydd o dechnoleg. Yn bersonol, bydd cynyddu fy ngwybodaeth o Gymraeg yn gwella fy sgiliau o ran cyflogadwyedd, gan y byddaf yn dod yn gwbl abl i gyflenwi pob cwrs yn ddwyieithog, felly gallwn gyflenwi i ddysgwyr Cymraeg a Saesneg eu hiaith ar yr un pryd.
Dosberthir y mwyafrif o bobl yng Nghymru yn rhai ‘cyfansawdd ddwyieithog’, sef rhai sy’n dysgu’r Gymraeg a’r Saesneg ar yr un pryd. Mae dysgu iaith fel plentyn yn rhoi i chi agwedd fwy cyfannol tuag at ieithoedd, ac yn ôl Marian & Shook 2012, fanteision profedig o ran gweithrediad yr ymennydd, megis:
- Y gallu i ganolbwyntio’n well ar dasgau
- Bod yn well wrth newid rhwng tasgau
- Gwell sgiliau gwybyddol
- Cof gwell
- Mae’n haws dysgu ieithoedd eraill
Drwy gyflenwi cyrsiau’n ddwyieithog, rwy’n gobeithio gwella fy sgiliau gwybyddol a defnyddio’r wybodaeth sylfaenol i ddysgu iaith arall.
Oeddech chi’n gwybod bod gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs Swyddogion Hyfforddi sy’n siarad Cymraeg ym mhob rhanbarth, rhai a all eich helpu i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg? Mae gan Lywodraeth Cymru darged eang – erbyn 2020 dylai o leiaf 10% o’r dysgwyr mewn Addysg Bellach fod yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae gan y sector addysg cyfan ddyletswydd i barhau i wella dwyieithrwydd, a dyna pam ei bod yn arbennig o bwysig i gynorthwyo’n Gweithwyr Chwarae i wella’u sgiliau yn yr iaith Gymraeg drwy ein prosiect, Cymraeg Gwaith. Rwy’n gobeithio y byddaf, wrth ddod yn fwy medrus yn yr iaith Gymraeg, yn gallu cyflenwi cyrsiau yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n ddwyieithog i ddysgwyr Saesneg a Chymraeg eu hiaith ar yr un pryd. A thrwy hynny gyflenwi addysg y mae ein dysgwyr yn ei haeddu yn yr iaith o’u dewis.
Angela Williams
Swyddog Hyfforddi, Gorllewin Cymru