Blog: Defnyddio Dwyieithrwydd mewn lleoliadau Blwyddyn Gynnar, Gofal Plant a Chwarae cyfrwng Saesneg
Mae nifer o ddarparwyr blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yn defnyddio rhywfaint o’r iaith Gymraeg yn eu darpariaeth; o gyfrif nifer y plant sy’n bresennol yn ystod amser cylch, i arddangos geiriau Cymraeg ar eu harddangosfeydd.
Mae rhain yn gamau gwych i gyflwyno’r iaith Gymraeg yn eich lleoliad gofal plant, a hynny’n union ydyn nhw… camau yn y cyfeiriad cywir. Yn hytrach na thrin yr iaith Gymraeg fel ymarfer ticio bocs, mae llawer o leoliadau Saesneg yn cydnabod pwysigrwydd arddangos arferion da wrth ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae ‘na ddigonedd o sefydliadau i helpu lleoliadau cyfrwng Saesneg i ddatblygu dwyieithrwydd. Yn ogystal â’ch sefydliad ymbarél (CDC Cymru, NDNA Cymru, PACEY Cymruneu Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs) mae Mudiad Meithrin, Menter Iaith, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn ffynonellau cymorth eraill, i enwi dim ond rhai. Cysylltwch ag un ohonynt a gofynnwch am restr o gysylltiadau am gefnogaeth.
Mae defnyddio’r iaith Gymraeg yn achosi nifer o rwystrau i leoliadau cyfrwng Saesneg, y mae hyn yn amrywio o sgiliau iaith y staff, eu hyder wrth ddefnyddio’r iaith a materion ariannol fel cost cyfieithu a phrynu adnoddau. Gellir goresgyn y rhwystrau hyn drwy arfer dda, adnoddau cynllunio a chefnogaeth, ac mae llawer ohonynt ar gael yn rhad ac am ddim trwy’r sefydliadau ymbarél (Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru, NDNA Cymru, Pacey Cymru a Clybiau Plant Cymru Kids ‘Clubs).
Dywedai’r arbenigwyr ei bod yn well i ddysgu ail-iaith yn ifanc; mewn gwirionedd, y ieuengaf gall plentyn gael ei drochi mewn iaith, y gorau, ac i nifer o deuluoedd Saesneg sy’n byw yng Nghymru, y gwir yw bod y Gymraeg yn ail iaith.
Mae Meithrinfa Treehouse Day Nursery, wedi cydnabod y manteision o gyflwyno’r Gymraeg mor ifanc â phosib, a thrwy gynllunio gofalus wedi llwyddo i drawsnewid y feithrinfa o fod yn gyfrwng Saesneg yn unig i leoliad sy’n cynnig cyfleoedd dwyieithog rhagorol i’r plant. Mae asesu sgiliau staff a chynllunio ar gyfer gweithlu dwyieithog wedi golygu eu bod ag o leiaf un siaradwr Cymraeg rhugl ynghyd â dysgwyr Cymraeg ym mhob ystafell ac yn caniatáu iddynt gyflwyno’r Gymraeg i bob plentyn yn raddol a thrwy ystyried gweithgareddau’n ofalus. Nododd Siobhan Chambers, Cydlynydd Cefnogaeth CDC Cymru, ‘nid yn unig fod yr iaith yn cael ei weld a’i chlywed, ond ei defnyddio gan yr holl staff â phlant o bob oedran’.
Wrth gwrs, nid pob lleoliad sy’n ddigon ffodus i gael tîm o siaradwyr Cymraeg wrth law i allu trochi’r plant yn yr iaith. Mewn sir fel Pen-y-bont ar Ogwr, gyda chanran isel o siaradwyr Cymraeg (9.7%), gall recriwtio siaradwyr Cymraeg fod yn anodd, yn yr un modd a chyflwyno’r iaith i arferion dyddiol.
Mae amryw o gyfleoedd i hyfforddi a datblygu sgiliau’r iaith Gymraeg ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar, un o’r rhain yw Cymraeg Gwaith, cwrs blasu ar-lein sy’n galluogi ymarferwyr i gyfarfod â phobl eraill, ymysg sgiliau sylfaenol eraill. Gall gyflogwyr gofrestru ar gwrs drwy ymweld â https://dysgucymraeg.cymru/cymraeg-gwaith/cwrs-ar-lein-blasur-gymraeg/
Dros y misoedd diwethaf, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi bod yn asesu gweithlu’r Blynyddoedd Cynnar drwy asesiadau ffôn ac ar-lein, mae llawer ohonoch wedi cymryd rhan yn barod; os nad ydych chi wedi cymryd rhan ac yn awyddus i wneud, cysylltwch â’ch sefydliad ymbarél. Bydd yr wybodaeth a gasglwyd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu nifer o gyfleoedd hyfforddi dros y flwyddyn nesa’.
Rydym yn hynod gyffrous am lansiad yr Offeryn Diagnostig, a fydd ar gael drwy wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, fydd yn eich galluogi i asesu pa sgiliau iaith rydych chi a’ch staff yn meddu, a byddant yn eich cyfeirio at y cwrs fwyaf addas ac yn lleddfu unrhyw ofnau sydd gan ddysgwr. Ewch ar wefan eich sefydliad ymbarél i weld unrhyw ddiweddariad neu drwy fynd ar https://dysgucymraeg.cymru/
Gall gyfathrebu â rhieni sy’n siarad Cymraeg fod yn ffordd wych o gyflwyno’r Gymraeg mewn darpariaethau cyfrwng Saesneg, gyda manteision ychwanegol megis rhieni’n teimlo’n rhan o’r ddarpariaeth gan wybod fod yr iaith Gymraeg yn cael ei drysori, hyd yn oed os mai sgiliau ieithyddol sylfaenol sydd gan y staff.
Mae The Burrows Day Nursery gyda nifer fechan o staff yn meddu ar sgiliau Cymraeg lafar sylfaenol, ond â nifer llai yn meddu ar sgiliau llythrennedd, er mwyn gwneud i fyny am hyn, maent yn cydweithio â rhieni er mwyn cyfieithu geirfa sylfaenol a chylchlythyrau. Mae hyn yn caniatáu i’r feithrinfa gefnogi’r plant a’u datblygiad yn yr iaith a chynnwys rhieni ar lefel bersonol, a datblygu lefel sylfaenol o Gymraeg yn eu darpariaeth heb unrhyw gost gan annog staff i ddatblygu eu dealltwriaeth.
Mae argaeledd a defnydd adnoddau yn rhwystr cyffredin ar gyfer lleoliadau cyfrwng Saesneg. Mae Little Tigers Playgroup yn ogystal â llawer o ddarpariaethau eraill yn defnyddio Ticw, adnodd sy’n cynnwys amrywiaeth o lyfrau Cymraeg syml, yn ogystal ag arth o’r enw Ticw (sydd ar gael gan Gyngor Sir y Fflint) i ehangu ar lefel y Gymraeg a ddefnyddir. Bydd Ticw yn ymuno â’r plant yn eu gweithgareddau a thrwy gael y staff i gyfathrebu gyda’r plant drwy’r Gymraeg, i’w hatgoffa o’r eirfa Gymraeg a gofyn cwestiynau. Mae Ticw yn aml yn ymweld â chartrefi’r plant gydag un o’i straeon ac ambell gân. Mae Ladybirds Playgroup hefyd yn annog a chefnogi rhieni i gyfathrebu drwy’r Gymraeg drwy’r cynllun clwb llyfrau. Mae’r cynllun yn cynnwys danfon llyfrau ac adnoddau, megis rhestrau geirfa a chaneuon sy’n berthnasol i’r llyfrau adref gyda’r plant i gefnogi’r rhieni yn natblygiad iaith y plentyn ynghyd ag adeiladu ar y bartneriaeth gweithio rhwng y rhiant a’r ddarpariaeth, sy’n ffordd wych i sicrhau bod y plentyn yn clywed yr iaith yn y lleoliad a’r cartref.
Gydag ymrwymiad cryf i hyrwyddo Datblygiad yr Iaith Gymraeg, mae Julie sy’n warchodwr plant wedi cwblhau ei seithfed mlynedd o hyfforddiant yn yr iaith Gymraeg ac mae’n parhau i ddatblygu ei sgiliau ieithyddol. Mae wedi cofrestru’r lleoliad yn un ddwyieithog ac wedi cyhoeddi gwybodaeth yn ddwyieithog er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth, sy’n gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg ar draws yr holl wasanaeth.
Yn ychwanegol at sicrhau bod plant yn y lleoliad yn cael eu hannog a’u cefnogi i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, mae Julie hefyd wedi cymryd y camau i gynyddu’r cyfleoedd yn y Gymraeg yn y gymuned ehangach, drwy sefydlu grŵp cerddorol wythnosol ddwyieithog ar gyfer rhieni/gofalwyr a phlant yn y neuadd gymunedol leol. Yn agored i aelodau’r gymuned, mae rhwng 10 a 15 o blant sy’n mynychu’n rheolaidd, yn gwbl ddwyieithog.
Meddai Julie: ‘Mae dysgu Cymraeg wedi cael effaith gadarnhaol ar fy musnes. Mae gen i rieni yn fy newis oherwydd fy narpariaeth Gymraeg, er bydd y plant yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg, yn syml i roi cychwyn gwell i’w plant ac wrth wybod y byddant yn astudio Cymraeg yn yr ysgol p’un bynnag un maent yn mynychu.’ ‘Pan mae’r plant yn dychwelyd o’r ysgol gyda’u tystysgrifau siarad Cymraeg yr wythnos mae’n deimlad gwych, rwy’n gwybod fy mod wedi cael dylanwad arnynt i gyrraedd y lefel honno’.
Yng Ngwanwyn 2017, hysbyswyd Awdurdodau Lleol ledled Cymru o danwariant Llywodraeth Cymru. Gwnaethpwyd cais gan siroedd Casnewydd, Conwy, Penfro a Mynwy am arian i ddosbarthu Bocys Adnoddau Cymraeg i bob Clwb Gofal Plant ar ôl Ysgol o fewn y rhanbarth. Roedd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi casglu a dosbarthu’r bocsys ym mhob rhanbarth, roedd y bocsys yn cynnwys amryw o adnoddau cyffrous i hyrwyddo’r defnydd y Gymraeg mewn lleoliadau, er enghraifft, Jig-so pren y Wyddor Gymraeg siâp Draig, amrywiaeth o lyfrau, llun-eiriadur Cymreig addas i blant, gemau cardiau a Monopoli lleol (e.e. Monopoly Casnewydd).
Mae’r bocsys Adnoddau wedi bod yn llwyddiannus iawn, a gwelwyd defnydd o’r eitemau o fewn ymweliadau clwb yn ystod 2017-18.
“Rydyn ni’n falch iawn o’r adnoddau Cymraeg, mae’r plant yn eu caru ac yn eu mwynhau”; “Caru’r adnoddau newydd”; “Yn gymorth mawr gyda llythyrau’r Wyddor!”.
Mae’r Monopoli: Mae’r fersiwn Casnewydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda’r plant yn MiClub (Casnewydd), gyda staff yn dweud ei fod yn cael ei ddefnyddio yn ddyddiol. Mae Clwb Ar ôl Ysgol yr Archesgob Rowan Williams yn Sir Fynwy wedi gwneud defnydd ardderchog o’r Geiriadur lliwgar Cymreig sy’n addas i blant ac roedd yr adnodd wedi cael cymaint o argraff ar yr ysgol maent hefyd wedi prynu copïau!
Rydym yn gobeithio bydd hyn yn rhoi trosolwg i chi ar sut rydym yn annog a gweithio gyda’n haelodau i fagu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Oes gennych unrhyw awgrymiadau hoffech eu rhannu â ni?