Blog: Cefnogi gofal plant cofrestredig
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi bod yn gwrando i gael gwybod am yr heriau a’r pryderon sydd gan y Sector Gofal Plant Allysgol.
Ar y dechrau, rhai tymor byr ac ar-y-pryd oedd y rhain, rhai megis dod o hyd i ariannu, rhoi staff ar saib swydd a dryswch ynghylch arweiniad a deddfwriaeth. Ond wrth i fusnesau droi eu golwg at y dyfodol a’r hyn a ddaw i ran ei gwasanaethau o bosibl weddill 2020, un o’r prif bryderon yw’r nifer o leoedd a gymerir.
Mae’r Sector Gofal Plant ar y cyfan, er yn darparu gwasanaethau hanfodol i gefnogi adferiad yr economi, yn wynebu gostyngiad sylweddol arfaethedig yn y nifer y lleoedd a gymerir. Mae cynnydd mewn diweithdra, materion fforddiadwyedd (yn enwedig gyda’r ansicrwydd ynghylch y Cynnig Gofal Plant), ofnau rhieni/gofalwyr ynghylch anfon eu plant yn ôl i ysgolion/gofal plant, a mwy o gyflogwyr yn ystyried gweithio o gartref fel ateb tymor byr (ac weithiau tymor hirach), oll yn debygol o gael effaith andwyol ar ein Sector
Dyma pam, ei bod yn awr yn bwysicach nag erioed o’r blaen ein bod ni (Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, cymunedau ac ysgolion) yn cefnogi gofal plant cofrestredig (neu ofal plant sy’n gweithio tuag at gofrestru) yn hytrach na’r dewisiadau eraill nas rheoleiddir. Mae Darparwyr Gofal Plant Allysgol sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) eisoes wedi gorfod goresgyn rhwystrau i ennill a chynnal cofrestriad. Mae’r rhain yn cynnwys cyflogi a chadw staff sydd wedi’u cymhwyso’n addas, cael mannau cyfarfod y gellir eu cofrestru ac annog cymryd nifer digonol o leoedd i gefnogi’r gwariant sy’n ofynnol wrth lynu at bolisïau, gweithdrefnau a chymarebau staffio. Mae nifer o’r materion hyn wedi eu dwysáu gan y pandemig presennol.
Gallai Darparydd Gofal Plant Allysgol oresgyn hyn oll, pe na bai clwb gweithgaredd nas rheoleiddir, neu gynllun o eiddo Llywodraeth Cymru (a allai fod â blaenoriaethau penodol, ond a a ddefnyddir yn aml i bwrpasau gofal plant) yn sefydlu eu hunain yn yr un man cyfarfod, neu fan cyfarfod gerllaw, ac yn cynnig lleoedd am ddim neu dipyn yn rhatach. Dyma fydd yr hoelen yn arch Sector sy’n ei chael yn anodd goroesi fel y mae. Ar y naill law rydym ni fel Cenedl yn datgan yr angen am ofal plant cofrestredig, yn atgyfnerthu ei bwysigrwydd drwy gynlluniau megis Gofal Plant Di-dreth, a’r Cynnig Gofal Plant, a groesewir wrth gwrs gan y sector. Ar y llaw arall rydym fel petaem yn cefnogi cystadleuwyr nas rheoleiddir – ac Awdurdodau Lleol yn hyrwyddo clybiau/cynlluniau nas rheoleiddir ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ysgolion lleol yn dosbarthu taflenni’n hysbysebu Gwersylloedd Gweithgaredd Gwyliau. Mae hyn yn creu dadrithiad, rhwystredigaeth a’r teimlad o fod wedi’u bradychu ymhlith Darparwyr, a’r rhain wedi gweithio mor angerddol o galed i roi anghenion eu cymuned yn gyntaf, yn aml heb fawr o gymhelliad ariannol i wneud hynny.
Cyn y pandemig, roedd ein haelodau eisoes yn adrodd ar frwydr gynyddol i gystadlu â’r gweithgareddau hyn nad ydynt yn cael eu rheoleiddio, a rhai o’n haelodau hyd yn oed yn ystyried dadgofrestru a mynd drwy’r Gorchymyn Eithrio eu hunain i leihau’r angen am gofrestru (a’r costau sy’n dilyn). Byddai hyn yn ddi-os yn cael effaith sylweddol, negyddol ar ansawdd y gofal a fydd yn cael ei ddarparu, ac yn risg enfawr o ran Diogelu.
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn dal i groesawu adolygiad o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) a’r Eithriadau, a hefyd yn annog agwedd gyfannol tuag at gynlluniau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau nad ydynt yn effeithio’n andwyol ar ein sector sylfaenol. I alluogi ein Sector i oroesi, adfer a ffynnu yn y dyfodol, mae angen y neges glir, gyson a diamwys bod Cymru’n mawrbrisio ac yn blaenoriaethu’r Sector Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae, a’r rôl hanfodol y bydd yn ei chwarae yn yr adferiad economaidd yn dilyn COVID-19.
Naomi Evans,
Rheolwr Rhanbarthol De Ddwyrain Cymru