Blog: Buddion a Heriau i Gweithio yn Partneriaeth
Cydnabyddir yn eang yn y Sector Gofal Plant a Chwarae fod cydweithio rhwng ysgolion a Gofal Plant Allysgol cydweithio yn fuddiol y tu hwnt. Mae bod â Gofal Plant fforddiadwy ar y safle’n bwynt gwerthu gwirioneddol i ysgol, a nifer o rieni yn awr yn dewis ysgolion nid yn unig ar sail dalgylch ond ar eu hanghenion a’u disgwyliadau hwy. Y mae hefyd yn gefn i blant sy’n elwa o gysondeb a’r hyn sy’n gyfarwydd iddynt.
Ac ysgolion a Gofal Plant yn awr yn ailagor yn dilyn lledaeniad COVID-19, mae angen rhoi mesurau gwarchodol yn eu lle. Mae’r mwyafrif o ysgolion yn awyddus i Leoliadau ailagor. A hybiau ysgol yn cael eu defnyddio i ddarparu gofal i blant gweithwyr allweddol drwy gydol y pandemig, dylid canmol staff ysgolion am eu parodrwydd i addasu. Yn awr fod ysgolion yn ailagor, mae gan athrawon y dasg anferthol o addasu eu dysgu a’u hamgylcheddau i ddilyn canllawiau a chyfyngiadau newydd. A nifer o Weithwyr Allweddol yn dal i fod angen yr oriau estynedig, gweithwyr nad ydynt yn rhai allweddol yn dychwelyd i’w gwaith, a staff Gofal Plant yn awyddus i ddychwelyd i’w rolau hwy, mae pob rheswm yn dweud y bydd gweithio mewn partneriaeth a defnyddio parodrwydd, sgiliau a phrofiad Gweithwyr Chwarae’n fanteisiol i ysgolion ac i Ofal Plant. Er mwyn i hyn ddigwydd mae angen edrych ar Ofal Plant nid fel menter allanol ond fel rhan o gymuned yr ysgol a’r tîm cyfan. Mae agwedd gyfannol tuag at addysg a gofal yn hollbwysig, nid yn unig i Ofal Plant, ond i addysg, i blant a’u teuluoedd.
Yr anhawster yw bod gan ysgolion ddyletswydd i gydymffurfio â’r canllawiau ar bellhau cymdeithasol a rheoli haint. Cynghorir ysgolion i gyfyngu ar y nifer o bobl allanol ar y safle yn ogystal â’r angen i gyfyngu ar feintiau dosbarthiadau. Bydd angen i ysgolion ddefnyddio’r ardaloedd a ddefnyddir gan Glybiau Gofal Plant Allysgol drwy gydol oriau’r ysgol. Golyga hyn na fydd modd i’r mwyafrif o Glybiau Ôl-ysgol ailagor am weddill Tymor yr Haf, ac mae nifer yn ansicr a fydd hyn hefyd yn parhau i fis Medi.
Er ein bod fel Sector yn cydnabod yr anawsterau ynghlwm wrth ailagor mewn ysgolion ar hyn o bryd, ni all Gofal Plant oroesi os yw hyn yn parhau i’r tymor hir, ac mae’n hanfodol bod modd i Leoliadau ddechrau gwasanaethu ym mis Medi. Er hynny, mae pryderon na fydd y cyfyngiadau hyn wedi esblygu erbyn hynny, ac y caiff hyn effaith andwyol ar y Sector Gofal Plant. Bydd pellhau cymdeithasol yn parhau i fod yn ffactor pwysig a bydd angen i Glybiau Ôl-ysgol gynllunio ar gyfer hyn. Yn ystod y cyfnod yma’n arbennig bydd gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol, gan gydweithio ag ysgolion i gynllunio eu “swigod”. Dywedir hyn yn glir yn yr Arweiniad ar y mesurau Diogelu, lle pwysleisir y dylai ysgolion, Lleoliadau a rhieni weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod plant yn aros mewn grwpiau cyson er mwyn cyfyngu ar gysylltu, a lleihau’r risg o ledaenu’r feirws. Mae angen i ysgolion a Gofal Plant gydweithio â’i gilydd i edrych ar y lle sydd ar gael iddynt, a pha newidiadau dros dro i gytundebau rhent y gellir eu caniatáu. A all Clybiau ddefnyddio unrhyw ystafell arall fel y gallant ddarparu gofal ar gyfer digon o blant gan hefyd gadw at swigod bychain, cyson? Sut fydd y ddau barti’n sicrhau y cymerir mesurau i sicrhau rheoli haint ar y safle drwyddo draw?
Mae’r ffordd ymlaen yn ansicr. Daw’r amser pan fydd yn rhaid i fwy o bobl ddychwelyd i’w mannau gwaith, a phan ddigwydd hyn bydd bod â Gofal Plant digonol hyd yn oed yn fwy hanfodol. Os na fydd modd i ofal plant ailddechrau yn fuan, gallem golli’r busnesau hyn yn gyfangwbl. Bydd bod â phartneriaeth waith gref rhwng ysgolion a gofal plant o’r pwys pennaf i sicrhau na ddigwydd hyn.
Becky Hall
Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant, De Ddwyrain Cymru