Blog: Barod am 30 awr o ofal plant? #TrafodGofalPlant

Ready for 30 hours of childcare? #TalkChildcare

“Diwedd y gân yw y geiniog” meddai’r dywediad ac, heb os, ble bu gofal plant dan drafodaeth yn sicr mae hon yn gri gyffredin gan rieni/gofalwyr ar y naill law a gan ddarparwyr gofal plant (yn Gylchoedd Meithrin, meithrinfeydd, playgroups, gwarchodwyr cofrestredig a chlybiau gofal all-ysgol fel ei gilydd).

Testun hapusrwydd felly oedd deall y byddai Llywodraeth Cymru’n cyflwyno 30 awr o ofal plant rhad ac am ddim i blant 3 a 4 mlwydd oed rhieni sy’n gweithio’n 16 awr yr wythnos fel rhan o’i gynlluniau cyn 2021 (a rhan fwyaf o’r gwrth-bleidiau’n gefnogol).

Dyma gyfle gwirioneddol wych i rieni fanteisio ar ofal o ansawdd rhad ac am ddim ac i ddarparwyr neu leoliadau dderbyn tâl a chyfradd fesul awr sy’n gydnabyddiaeth o’r gwaith a’r costau uchel ynghlwm â darparu gwasanaeth gofal plant o ansawdd.

Fel gydag unrhyw newid mor sylweddol, mae peth pryder a phroblemau (yn naturiol) wrth i ddarparwyr gofal plant glywed am yr hyn sydd ar droed.

Dyma 10 “top tip” felly i leoliadau a darparwyr gofal plant ar draws Cymru:

1. Ydi’ch lleoliad chi yn un o’r 7 ardal sydd yn rhan o’r cynllun peilot? Yr ardaloedd hyn yw: Gwynedd, Ynys Mȏn, Sir y Fflint, Abertawe, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent a Chaerffili. Os ydych yn un o’r ardaloedd hyn, beth am siarad gyda chynrychiolydd o’r mudiad ymbarél yr ydych yn perthyn iddi i dderbyn mwy o arweiniad a chefnogaeth?
2. Cadwch lygad am ddatblygiadau perthnasol ar y we, Trydar ac ar Facebook. Mynychwch gyfarfodydd neu fforymau fydd yn cael eu trefnu’n lleol gan eich mudiad ymbarél, gan ‘Cwlwm’ neu gan Awdurdod Lleol.
3. Sicrhewch fod gennych gynllun busnes mewn lle h.y. yn fras eich bod yn adnabod eich incwm a’ch gwariant misol. Cysylltwch â’ch mudiad ymbarél. Os nad yn aelod yn barod, ymunwch!
4. Mae codi arian yn realiti i fwyafrif o leoliadau gofal plant ac mae angen cynllun o ddigwyddiadau codi arian rheolaidd. Mae llwyth o syniadau ar gael ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol – beth mae lleoliadau eraill mewn ardaloedd eraill o Gymru yn ei wneud?
5. Cyfrannwch unrhyw sylwadau i Lywodraeth Cymru trwy ymgyrch #TrafodGofalPlant (#TalkChildcare). Efallai fod gennych farn am y cynllun 10 awr presennol (neu gynllun ‘Dechrau’n Deg’). Helpwch y Llywodraeth i gynllunio hyn yn gywir wrth i’r cynllun esblygu.
6. Meddyliwch am ymgeisio am grant Loteri ‘Arian i Bawb’ i wella adnoddau’r lleoliad. Mae ffynonellau eraill ar gael hefyd (The Health Lottery, Postcode Lottery, Aviva Community Fund, The Coalfields Regeneration Trust ayyb). Gall eich sefydliad ymbarél helpu gyda hyn Clybiau Plant Cymru Kids Clubs, Pacey, Mudiad Meithrin, NDNA a Wales PPA).
7. Gwnewch yn siŵr fod eich staff yn cael pob cyfle i ennill cymhwyster neu i uwch-sgilio gyda chyfleon lleol a chenedlaethol. Mae leoliad sy’n buddsoddi’n sgiliau ei staff yn leoliad arobryn!
8. Mynnwch gefnogaeth eich cymuned (wele pwynt 4) i godi arian, i nabod eich cynulleidfa, i hyrwyddo’ch gwaith
9. A ydych yn pontio’n llwyddianus gyda’ch ysgolion lleol? Hynny yw, a ydi’r berthynas rhwng eich lleoliad a’r ysgol yn un dda? Mae nifer o esiamplau o leoliadau gofal plant sy’n gwneud cynlluniau gwahanol fel gofal cofleidiol ar y cyd gydag ysgolion cyfagos.
10. Cadwch mewn cysylltiad! Mae pob sefydliad ymbarél yn diweddaru tudalennau Facebook a Trydar pob dydd gyda newyddion am wahanol ddatblygiadau. Dilynwch nhw, hoffwch nhw ar Facebook a defnyddiwch arbenigedd a gwybodaeth eu staff!

Mae “newid yn change” medden nhw a beth bynnag yw’ch teimladau cychwynnol am y cynllun hwn, peidiwch a chael eich gadael ar ȏl a gwnewch y mwyaf o’r cyfle!

Tagiau