Cylch i Bawb: Croesawu pob teulu

Gwyliwch y fideo byr hwn am fwy o wybodaeth am y pecyn. I dderbyn copi o’r pecyn, archebwch yma.

Mae adnodd Mudiad Meithrin Cylch i Bawb: Croesawu pob teulu gyda’n pecyn LHDTC+ yn berthnasol ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae.  

Mae’r pecyn yn cynnwys cyngor am:

  • siarad â theuluoedd
  • defnyddio’r termau cywir
  • deall stereoteipiau
  • ateb cwestiynau plant
  • adnoddau i’w defnyddio yn y lleoliad
  • syniadau ar gyfer helpu plant i ddysgu am amrywiaeth a gwahanol deuluoedd, cariad a chyfeillgarwch
  • gweithgareddau ar gyfer dathlu Pride