Taflen wybodaeth: Cau Lleoliad Gofal Plant neu Chwarae Dros Dro neu Mewn Argyfwng

Mae’r daflen wybodaeth hon yn amlinellu’r ymarfer gorau yn ymwneud â chau darpariaethau gofal plant a chwarae (gan gynnwys lleoliadau grŵp a gofalwyr plant) dros dro neu mewn argyfwng. Mae’n bwysig bod lleoliadau yn paratoi at amgylchiadau na ellir eu rhagweld, ynghyd â’r posibiliad y bydd angen iddynt gau eu lleoliadau dros dro, neu wagio’r adeilad o ganlyniad i argyfwng sydd y tu hwnt i’w rheolaeth. Gall datblygu Cynllun Parhad Busnes (CPB) eich helpu i feddwl am a chynllunio at yr hyn fydd ei angen yn ystod neu’n dilyn argyfwng neu ddigwyddiad sy’n bygwth eich busnes arferol. Bydd hefyd yn dod a’r holl wybodaeth ynghyd mewn un lle. Er enghraifft, os yw dilyw, tân neu ddifrod arall yn golygu na allwch weithredu fel arfer, mae yna bethau bydd angen i chi wneud; o alw’r holl staff a rhieni/gofalwyr i adael iddynt wybod beth sydd wedi digwydd a gwneud trefniadau gydag yswirwyr a rheoleiddwyr er mwyn i chi fedru ailagor eich busnes. Bydd rhoi CPB mewn lle i baratoi at gau dros dro neu mewn argyfwng yn sicrhau bod pawb yn medru gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd. Bydd hwn yn helpu sicrhau diogelwch plant, eu teuluoedd, staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr, ynghyd â chefnogi’r ailagor a hyfywedd cyfredol y lleoliad a lles pawb sy’n rhan ohono.